Cynyddu Arweinyddiaeth gyda Doethineb BeiblaiddSampl
Ail edrych ac ail ystyried
Llwyddiant! Llongyfarchiadau ar gyrraedd diwedd taith saith diwrnod o'r Cynllun Beibl Cynyddu Arweinyddiaeth gyda Doethineb Beiblaidd. Falle bod ti'n meddwl, "Os dw i wedi gorffen, pam nad ydw i wedi darfod?" Dyna gwestiwn ardderchog, ac falle mai gwers heddiw yw'r pwysicaf o'r cwbl.
Gad i ni ei alw'n Ail edrych ac ail ystyried.
Os wnest ti ddarllen y cynllun yma'n ddyddiol, yna, fe wnest ti amsugno chwe cysyniad ac egwyddor. Y tebygolrwydd ydy, nad wyt ti wedi prosesu'r holl gysyniadau a gweithredu arnyn nhw eto. Maer hyn yn gallu bod yn her sylweddol i bob un ohonom. Dŷn ni'n dysgu cymaint o wybodaeth newydd, ond does dim amser i'r gwybodaeth hwnnw dreiddio i'r meddwl a throi'n arferion newydd a fydd yn arwain at y newid dŷn ni'n ei ddymuno.
Beth yw'r her Ail edrych ac ail ystyried? Y funud hon dw i eisiau i ti fynd yn ôl i un o'r chwe diwrnod diwethaf a dewis y dydd a wnaeth yr argraff fwyaf arnat ti. Dewisa'r diwrnod y ces ti'r munud cic mul neu ahayna. Dewisa un o'r cysyniadau i ffocysu arno am yr wythnos nesaf. Darllena'r defosiwn eto, edrycha'n fanwl eto ar yr ysgrythur, ac arbeda un o'r adnodau i dy restr gweddi Ap Beibl.
Unwaith mae'r adnod a cysyniad pwysicaf wedi'u harbed yn dy restr gweddi, myfyria a meddwl am y peth yn ddyddiol. Ail edrycha ac ail ystyria am y saith diwrnod nesaf! Fy ngweddi i drosot yw y byddi di'n gweld arferion newydd a fydd yn meithrin trawsnewidiad go iawn.
Dyma mae James Clear yn ei ddweud am Welliant Parhaus:
Gad i ni ddiffinio Gwelliant Parhaus. Mae Gwelliant Parhaus yn ymroddiad i wneud newidiadau a gwelliannau bach bob dydd, gan ddisgwyl y bydd y gwelliannau bach hynny yn ychwanegu at rywbeth arwyddocaol.
Y dull nodweddiadol o wella dy hun yw gosod nod mawr, yna ceisia gymryd camau mawr er mwyn cyflawni'r nod mewn cyn lleied o amser â phosib. Er bod hyn yn gallu swnio'n dda mewn theori, mae'n aml yn gorffen mewn gor-flinder, methiant, a rhwystredigaeth. Yn lle, dylem ffocysu ar Welliant Parhaus drwy addasu ein harferion a'n hymddygiadau dyddiol, gam wrth gam.
Ail edrycha ac ail ystyria, ac ymdrecha am Welliant Parhaus yn ddyddiol. Meddylia mewn difrïf, os byddi'n gwella prin un y cant yn ddyddiol am flwyddyn, byddi di 37 gwaith yn well erby6n i ti ddod i ben.
Diolch am ddarllen Cynyddu Arweinyddiaeth gyda Doethineb Beiblaidd. dw i'n gweddïo ei fod wedi bod yn fuddiol ac yn oleuedig gan dy helpu i fod yn arweinydd gwell. Os wyt ti am gael y wybodaeth ddiweddaraf am fy ysgrifeniadau, yr hyn rwy'n ei ddysgu, a'm meddyliau cyffredinol, gelli di danysgrifio i'm e-bost wythnosol am ddim
Am y Cynllun hwn
Mae cynyddu ein harweinyddiaeth yn hollbwysig heddiw. Rhaid i ni ehangu, chwyddo, datblygu ein harweinyddiaeth i addasu i'n hamgylchedd sy'n newid yn barhaus. Technoleg sy'n esblygu'n gyflym, newid dynameg gweithwyr / tîm, ac economeg symudol yw rhai o'r materion dŷn ni'n dod ar eu traws. Ond paid â meddwl bod cynyddu ein harweinyddiaeth ar gyfer y gweithle'n unig. Mae'n rhaid i ni gynyddu ein harweinyddiaeth gartref ac yn ein perthynas ag eraill. Cymer y cam heddiw i gael mewnwelediad arweinyddiaeth ymarferol, perthnasol.
More