Cynyddu Arweinyddiaeth gyda Doethineb BeiblaiddSampl
Osgo Dysgu
hunanymwybyddiaeth.CREDIT: LANE HICKENBOTTOM/ REUTERS
"Mae gwybod beth wyt ti ddim yn gwybod yn fwy defnyddiol na bod yn wych." - Charlie Munger
Mae hwn yn ddyfyniad gwych i atgyfnerthu'r syniad o hunanymwybyddiaeth. Yn ôl arbenigwyr sy'n arwain y diwydiant, hunanymwybyddiaeth yw'r darn pos cyntaf tuag at ddatgloi mawredd. Ac o ran hunanymwybyddiaeth, dw i'n gweld Charlie Munger fel arbenigwr.
Os nad wyt ti'n gyfarwydd ag e, rwyt ti ar dy golled. Cyd-weithiwr agos, 95 mlwydd oed yw Munger i Warren Buffet, ac mae Buffet yn priodoli cymaint o'u llwyddiant i Munger dros y chwedeg a mwy o flynyddoedd mae nhw wedi gweithio â'i gilydd. Mae gan Munger, hyd yn oed yn 95 mlwydd oed angerdd i ddysgu mwy, ble byddai llawer yn dweud ei fod yn gwybod y cwbl yn barod.
"Dw i'n gweld pobl yn dod ymlaen mewn bywyd nad ydyn rhai mwyaf craf, weithiau ddim hyd yn oed y rhai mwyaf diwyd, ond maen nhw fel sbwng wrth ddysgu. Maen nhw'n mynd i'r gwely bob nos ychydig yn ddoethach nag yr oedden nhw pan godon nhw, a wir i ti gymaint mae hynny'n helpu, yn enwedig pan fydd gennyt gyfnod hir o'th flaen." - Charlie Munger
Mae cynyddu dy arweinyddiaeth yn ddibynnol iawn ar osgo dysgu. Yn ddyddiol dŷn ni'n dod ar draws sefyllfaoedd sydd angen gwybodaeth newydd, dulliau newydd, a strategaethau newydd. I fanteisio'n llawn ar y sefyllfaoedd hyn mae angen parodrwydd i fynd ati. Y ffordd orau i wneud hyn yw wastad bod yn barod i ddysgu ac i'th osgo ddangos hynny.
Dwedodd Anne Frank hyn yn glir iawn yn ei dyddiadur:
"Pa mor fonheddig a da y gallai pawb fod pe bydden nhw, bob nos cyn disgyn i gysgu, yn cofio digwyddiadau'r diwrnod cyfan ac ystyried yn union yr hyn a fu'n dda ac yn ddrwg. Yna, heb sylweddoli hynny, dych chi'n ceisio gwella'ch hun ar ddechrau pob diwrnod newydd; wrth gwrs, dych chi'n cyflawni cryn dipyn yng nghwrs amser." - Anne Frank
Yr hyn mae Anne a Charlie, ill dau, yn gwneud yn glir yw ei bod hi'n bwysig i gael osgo o ddysgu ac i gymhwyso'r yr hyn a ddysgir i'n bywydau dyddiol. Os wyt ti am gynyddu dy arweinyddiaeth er mwyn gallu ymateb i'n hinsawdd sy'n newid yn barhaus, dweda wrtho i am dy drefn ddiwedd y dydd.Beth wyt ti'n ei wneud cyn disgyn i gysgu?
Wyt ti'n mynd i fod ychydig yn ddoethach na phan wnest ti ddeffro?
Oes gen ti ddirnadaeth i weld y cwbl sy'n digwydd o'th gwmpas?
Wyt ti'n hidlo popeth drwy lens gwirionedd, sef Gair Duw?
Dyma decawê: drwy dydd a phob dydd mae cyfleon gynnon o'n cwmpas i ddysgu, tyfu, a datblygu i fersiynau gwell o'n hunain. Dydy'r tyfiant yma ddim yn dod mewn rhyw becyn neis sy'n hawdd i'w dderbyn a'i ystyried. Yn amlach na pheidio mae'r cyfnodau hyn o ddysgu a thyfu'n dod o gyfnodau o strygl, treialon, a sefyllfaoedd y bydden well gynnon ni beidio bod ynddyn nhw. Y realiti arall yw ein bod yn dysgu o leisiau a safbwyntiau nad ydyn ni, ar yr wyneb, o reidrwydd yn gwerthfawrogi nac yn cytuno â nhw.
Waeth beth ein sefyllfa neu'n hamgylchiadau mae bod ag osgo dysgu yn ein rhoi mewn sefyllfa ostyngedig i ddysgu a byw ein bywydau lle dŷn ni'n dymuno mynd i'r gwely yn ddoethach na phan wnaethon ni ddeffro. Os wyt ti eisiau gwybod beth dw i'n ei ddysgu, cymer olwg ar fy ngwefan. Dw i'n cofnodi'n ddyddiol ac mae gen i e-bost wythnosol y gelli di dderbyn a dysgu ohono. Dw i'n wirioneddol obeithio y byddi di heddiw a thros y dyddiau nesaf yn darganfod mwy o decawês, ac y bydd Duw yn dod â datguddiadau pwerus sydd ganddo ar y gweill i ti.
O Dduw, paratoa fy nghalon i'r hyn sydd gen ti ar fy nghyfer heddiw. Mae dy Air yn fyw, a dw i'n credu y byddi di'n dadlennu dy hun i mi.
Am y Cynllun hwn
Mae cynyddu ein harweinyddiaeth yn hollbwysig heddiw. Rhaid i ni ehangu, chwyddo, datblygu ein harweinyddiaeth i addasu i'n hamgylchedd sy'n newid yn barhaus. Technoleg sy'n esblygu'n gyflym, newid dynameg gweithwyr / tîm, ac economeg symudol yw rhai o'r materion dŷn ni'n dod ar eu traws. Ond paid â meddwl bod cynyddu ein harweinyddiaeth ar gyfer y gweithle'n unig. Mae'n rhaid i ni gynyddu ein harweinyddiaeth gartref ac yn ein perthynas ag eraill. Cymer y cam heddiw i gael mewnwelediad arweinyddiaeth ymarferol, perthnasol.
More