Cynyddu Arweinyddiaeth gyda Doethineb BeiblaiddSampl

Pentanau

Pa mor aml wyt ti'n gweld pethau na weles ti erioed o'r blaen? Er enghraifft, nawr rwyt ti'n gweld y car brynaist ti'n ddiweddar byth a hefyd, er nad wyt ti fyth yn cofio'i weld o'r blaen. Mae'r Beibl yn gallu bod run fath. Rwyt yn darllen adnod drosodd a throsodd, ac yna, allan o'r gwyll rwyt ti'n gweld rhywbeth newydd yn y geiriau. Mae hyn yn un o'r pethau dw i'n ei fwynhau gyda Gair Duw. Mae fy ffrind a mentor, J Lee, yn fy atgoffa'n aml, "Dŷn ni'n dysgu ar sail beth sydd angen ei wybod y funud hon."
Digwyddodd hyn imi pan ro'n i'n darllen drwy Effesiaid, pennod 6, sy'n cynnwys yr adnodau ar "Arfogaeth Duw" y mae cymaint ohonon ni wedi'i glywed ddwsinau o weithiau o'r blaen. Mae'n dechrau fel hyn:
"Mae Duw wedi paratoi arfwisg i chi ei gwisgo yn y frwydr. Byddwch chi'n gallu gwneud safiad yn erbyn triciau slei y diafol. (Effesiaid, pennod 6 adnod 11 beibl.net)
Os dŷn ni'n dad-wneud Arfwisg Duw, mae'n edrych fel hyn:
- Safwch gyda gwirionedd wedi'i rwymo fel belt am eich canol,
- cyfiawnder Duw yn llurig amdanoch,
- cyfiawnder Duw yn llurig amdanoch,
- a'r brwdfrydedd i rannu'r newyddion da am heddwch gyda Duw yn esgidiau ar eich traed. Daliwch eich gafael yn nharian ffydd bob amser,Derbyniwch achubiaeth yn helmed ar eich pen,
- a newyddion da Duw, sef cleddyf yr Ysbryd, yn arf yn eich llaw.
Mae gennym chwe ffordd i sefyll yn gadarn yn yr Arglwydd! Ond, edrycha'n dipyn agosach ar beth sy'n eu dal â'i gilydd. Y Gwirionedd o Air Duw, a chleddyf yr Ysbryd, sef Gair Duw. Do'n i ddim wedi sylwi ar hyn o'r blaen ac ro'n i wedi fy syfrdanu!
Y pentan cyntaf yw belt gwirionedd. Pwrpas belt yw dal pethau i fyny, fel ein trowsus. Pan sgwennwyd y Beibl dillad hir oedd yn cael eu gwisgo ac roedd belt yn eu dal i fyny i'w gwneud hi'n hawdd i symud o gwmpas yn sydyn heb ddisgyn drosodd. Pa mor briodol yw hi y gallwn ddefnyddio’r gwir o Air Duw i’n hatal rhag baglu dros ein hunain. Gair Duw yw ffynhonnell y gwirionedd i ddilynwr Iesu!
Y pentan ar y pen arall yw Cleddyf yr Ysbryd, sef Gair Duw. Mae'r cleddyf yn arf amddiffynnol ac ymosodol. Dylid defnyddio Gair Duw i amddiffyn a dal ein tir pan mae'r gelyn ysbrydol yn prowlan.
Fel y gweli yn y darlun hwn, mae'r llyfrau hyn wedi'u dal yn eu lle gan bentanau. Mae'r pentanau'n cynrychioli Gair Duw ac yn ffyrdd i sefyll yn gadarn. Mae'r darlun hwn yn cynrychioli ein bywydau fel arweinwyr. Dylai bod gennym sawl silff o lyfrau i ddysgu ohonyn nhw. Mae'r silffoedd hyn, hefyd, yn llawn o brofiadau sydd wedi ein siapio a'n paratoi. Mae'r adnoddau hynny'n bwerus a defnyddiol, a bydd Duw'n eu defnyddio fel mae e'n gweld orau. Ond yr hyn sy'n hanfodol i'r genhadaeth yw'r pentanau sy'n dal y llyfrau hyn y neu lle, y profiadau a'r addysgu.
Fel arweinwyr, un o'r ffyrdd hanfodol o gynyddu ein harweinyddiaeth yw adeiladu sylfaen gadarn drwy Air Duw. Rhaid i'r cwbl dŷn ni'n ei ddysgu, profiadau, ac addysgu redeg drwy hidlydd gwirionedd Duw-y pentanau. Bydd yn llunio ein persbectif, a chaniatáu i ni brosesu'r gwirionedd go iawn mewn sefyllfaoedd ac amgylchiadau. Felly, pan ac nid os bydd pethau'n anodd, y byddwn yn gallu graddio ein harweinyddiaeth oherwydd mae gwirionedd Gair Duw ynom, a bydd yn ein harwain i ymateb yn briodol. Mae Gair duw ynom yn darparu'r doethineb Beiblaidd sydd ei angen i fod yn arweinydd ardderchog.
O Dduw, dw i eisiau dy wirionedd dreiddio i'm calon a'm hysbryd. Siarad efo fi a'm hatgoffa i wneud pentanau Arfwisg Duw yn ran rheolaidd o'm diwrnod.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn

Mae cynyddu ein harweinyddiaeth yn hollbwysig heddiw. Rhaid i ni ehangu, chwyddo, datblygu ein harweinyddiaeth i addasu i'n hamgylchedd sy'n newid yn barhaus. Technoleg sy'n esblygu'n gyflym, newid dynameg gweithwyr / tîm, ac economeg symudol yw rhai o'r materion dŷn ni'n dod ar eu traws. Ond paid â meddwl bod cynyddu ein harweinyddiaeth ar gyfer y gweithle'n unig. Mae'n rhaid i ni gynyddu ein harweinyddiaeth gartref ac yn ein perthynas ag eraill. Cymer y cam heddiw i gael mewnwelediad arweinyddiaeth ymarferol, perthnasol.
More
Cynlluniau Tebyg

Beth yw fy Mhwrpas? Dysgu i Garu Duw a Charu Eraill

Dwyt ti Heb Orffen Eto

Rhoi iddo e dy Bryder

Coda a Dos Ati

Ymrwymo dy Waith i'r Arglwydd

P[rofi Cyfeillgarwch gyda Duw

Llawenydd ar gyfer y Daith: Dod o Hyd i Obaith yng Nghanol y Treial

Dewiswyd — Datgelu'r Wraig yn Nghrist

Hadau: Beth a Pham
