Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gweddïau PeryglusSampl

Dangerous Prayers

DYDD 7 O 7

Aflonydda Fi

Mae beth dŷn ni'n gweddïo amdano yn bwysig. Ond nid yn unig mae'n bwysig, mae hefyd yn ddadlennol.

Mae cynnwys ein gweddïau'n dweud mwy amdanon ni a'n perthynas â Duw na fydden ni'n ei ddychmygu. Mae'r hyn dŷn ni'n weddïo amdano'n adlewyrchu'r hyn dŷn ni'n ei gredu am Dduw. Os ydy'r rhan fwyaf o'n gweddïo ar gyfer "ni ein hunain" neu "beth sydd o bwys i ni," yna mae ein gweddïau'n datgelu beth dŷn ni'n ei gredu'n ddwfn o'n mewn, fod Duw yn bodoli'n benodol ar ein cyfer ni.

Felly, cymer eiliad ac archwilio dy weddïau. Meddylia am y cyfan wnest ti weddïo amdano'n ddiweddar - nid dy holl fywyd, dim ond y saith diwrnod diwethaf. Ystyria sgwennu rhestr n eu nodi ar dy ffôn yr holl bethau y gwnest ti ddeisebu Duw i'w gwneud yn yr wythnos ddiwethaf. Cymer ennyd i feddwl am y peth. Wyt ti'n cofio? Beth wnest ti weddïo amdano? Beth wnest ti ofyn i Dduw ei wneud?

Nawr, ateb yn onest. Os ddwedodd Duw iawn i bob gweddi weddïaist yn y saith diwrnod diwethaf, beth fyddai'n wahanol yn y byd?

Pe byddai dy weddïau'n rhai normal, diogel, yna, falle byddet ti wedi cael diwrnod da, wedi cyrraedd yn ddiogel, neu wedi mwynhau byrgyr dwbl, sglodion a Diet Coke.

Am flynyddoedd, pe taswn i wedi gwneud rhestr, byddai'r canlyniad wedi bod yn ddigalon. Pe byddai Duw wedi gwneud popeth dros benwythnos ofynnais iddo fe wneud fyddai'r byd fawr gwahanol o gwbl. Os dw i'n onest, faswn i ddim wedi gweddïo am ddim byd. Wythnosau eraill, falle y baswn i wedi gweddïo, ond byddai'r gweddïau i gyd amdana i, a dydy hynny ddim yn newid ryw lawer o ystyried y darlun ehangach.

Roedd fy ngweddïau'n rhai oedd yn rhy saff.

Roedd gen i ffordd at Creawdwr a Chynhaliwr y Bydysawd. Yr Ydwyf Mawr. Yr Alffa a'r Omega. Y Dechrau a'r Diwedd. Y Duw holl-bwerus, holl-bresennol, holl-wybodus sy'n gallu anfon tân o'r nefoedd, cau cegau llewod llwglyd, neu dawelu storm gynddeiriog. A'r cyfan y gofynnais iddo ei wneud oedd fy nghadw'n ddiogel a fy helpu i gael diwrnod da.

Am flynyddoedd doeddwn i ddim eisiau cael fy aflonyddu. Ond ar ôl gweddïo gweddïau peryclach fe wnes i ddarganfod fod ysgogiadau tyner Duw'n torri ar draws fy nghynlluniau hunan-ganolog yn rheolaidd ac y byddai'n fy nghyfeirio tuag at ei ewyllys dragwyddol.

Mae fy ffydd yn gryfach.

Mae fy mywyd yn gyfoethocach.

Mae fy nghalon yn llawnach.

Meddylia m a yr hyn allai fod yn wahanol pe byddet ti'n gweddïo gyda mwy o dryloywder. Pe byddet ti'n cymryd mwy o risg. Pe byddet ti'n fwy agored i beth fyddai Duw, o bosib, yn ei wneud ynot ti yn lle gobeithio ei fod yn mynd i wneud rywbeth iti. Beth petai ti'n gweddïo gweddïau mwy eofn? Breuddwydio mwy? Erlid Iesu'n ddi-hid gydag ildiad beiddgar?

Mae'n amser i ti newid y ffordd rwyt yn gweddïo. Mae'n bryd cefnu ar weddïau diogel, cyfforddus, rhagweladwy a hawdd eu gweddïo. Mae'n bryd gweddïo'n ddewr, mentro, agor dy hun i lwybr gwahanol i gyrchfan well. Mae'n bryd dechrau gweddïo gweddïau peryglus. Mae'n bryd aflonyddu.

Os wyt ti eisiau gwneud gwahaniaeth go iawn ar y ddaear, mae angen pŵer o'r nefoedd arnat ti. Os wyt ti am i'th fywyd fod o bwys, mae'n bryd gweddïo gweddïau mawr, beiddgar, craff.

Ceisia Dduw a breuddwydia'n fawr. Gwrthoda ofni methiant. Mae'n amser i fentro allan. i drystio. i feiddio, i gredu. Fydd dy fywyd ddim yn ddiogel bob amser. Bydd yn cymryd ffydd. Heb ffydd, does dim modd plesio Duw.

Beth wyt ti'n ddisgwyl amdano?

Dysga mwy am lyfr newydd Craig Groeschel. 'Dangerous Prayers".

Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

Dangerous Prayers

Wyt ti wedi blino chwarae hi'n saff gyda ffydd? Wyt ti'n barod i wynebu dy ofnau, adeiladu dy ffydd, a rhyddhau dy botensial? Bydd y Cynllun Beibl saith diwrnod hwn gan Craig Groeschel; gweinidog Life.Church; allan o'i lyfr 'Dangerous Prayers', yn dy herio i weddïo'n beryglus - achos doedd dilyn Iesu erioed i fod yn ddiogel.

More

Hoffem ddiolch i'r Parch Craig Groeschel a Life.Church.tv am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.craiggroeschel.com/