Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gweddïau PeryglusSampl

Dangerous Prayers

DYDD 4 O 7

Datgela Fy Ofnau

Beth sy'n dy wneud di'n bryderus? Nerfus? Aflonydd? Ofnus?

Dw i ddim yn siarad am ofnau allanol arferol fel nadroedd, pryfed cop, nac ofn hedfan. Dw i'n meddwl am beth sy'n dy gadw di'n effro ganol nos, y pethau hynny sy'n troi a throsi'n dy feddwl ac yn gwrthod cael eu tawelu. Pethau fel colli dy swydd. Ddim yn priodi. Neu fod yn sownd mewn priodas wael. Dy iechyd yn torri. Byw ar dy gynilon.

Dŷn ni ddim yn gwybod yr union ofnau oedd yn mynd drwy feddwl Dafydd, ond mae'n amlwg ei fod yn poeni am ei ddiogelwch a falle ei ddyfodol. Oherwydd ar ôl gofyn i Dduw chwilio ei galon, gweddïodd Dafydd, "Treiddia'n ddwfn, a deall fel dw i'n poeni" (Salm 139, adnod 23). Roedd e eisiau rhannu ei ofnau gwaethaf gyda Duw. I'w hwynebu a rhoi enwau iddyn nhw. I drystio fod Duw'n fwy nac unrhyw ofn y gallai e ddychmygu.

Wyt ti'n fodlon gweddïo gweddi felly? "Arglwydd, datgela beth sy'n dal fy meddwl yn wystlon. Dangos imi beth dw i'n ei ofni fwyaf. Dos ati a'm helpu i wynebu beth sy'n fy nychryn."

Mae'r hyn dŷn ni'n ei ofni o bwys.

Flynyddoedd yn ôl, cefais ddatguddiad am y pwnc hwn a gyffyrddodd â mi mewn ffordd bersonol iawn. Dangosodd Duw i mi mai’r hyn ro'n i'n ei ofni fwyaf oedd ble ro'n i'n trystio Duw leiaf. Ar ôl genedigaeth ein trydydd merch, Anna, dechreuodd Amy, fy ngwraig, gael heriau corfforol. Ar y dechrau roedden ni'n meddwl mai blinder oedd e, ond pan aeth ei chorff yn ddideimlad roedden ni'n ofni ei fod yn rywbeth llawer gwaeth. Methodd sawl meddyg gynnig ateb. Wrth i'w symptomau barhau i waethygu, dechreuodd fy ymddiriedaeth yn Nuw wanhau.

Cynyddodd yr ofnau, a chyda'r nos roedden nhw fel pelen eira'n mynd allan o reolaeth. Beth os yw Amy yn ddifrifol wael? Beth os wna i ei cholli? Fydda i ddim yn gallu magu'r plant ar ben fy hun. Fydda i ddim yn gallu i barhau fel arweinydd yr eglwys. Fydda i ddim eisiau dal ati. Yna, sylweddolais, y pethau oedd yn fy nghadw i'n effro gyda'r nos oedd y pethau o'n i ddim yn trystio Duw â nhw. O'n i'n dal fel gelain iddyn nhw. yn `myfyrio drostyn nhw, yn ceisio eu rheoli, yn ceisio datrys fy holl broblemau, yn cynllunio ar gyfer pob posibilrwydd. Trwy ras Duw, cryfhaodd Amy bob yn dipyn, ac ennill ei chryfder yn ôl. Ond datgelwyd un o'm gwendidau mwyaf. Roedd ofn wedi fy llethu.

Beth amdanat ti? Beth yw'r pethau hynny rwyt ti'n dal gafael ynddyn nhw gan adael iddyn nhw dy ddychryn? Pa ofnau wyt ti'n eu dal nôl oddi wrth Dduw?

Meddylia am y peth, os wyt ti wedi'th wasgu gan ofn am ddyfodol dy briodas mae hyn yn arwydd nad wyt yn trystio'r Arglwydd yn llwyr gyda'th briodas. Os wyt wedi dy lethu gan bryder am sut y byddi'n talu'r biliau, fe allai hyn ddatgelu nad wyt ti'n trystio Duw i fod dy ddarparydd. Os wyt wedi dy barlysu gan ofid am ddiogelwch dy blant, wyt ti falle ddim yn trystio y bydd Duw'n eu cadw'n ddiogel?

Wrth i Dduw ddatgelu dy ofnau bydd, hefyd yn adeiladu dy ffydd. Mae ei angen e arnat ti. Mae angen ei bresenoldeb arnat. Mae arnat angen ei rym. Mae arnat angen ei Ysbryd i'th arwain. Mae arnat angen ei Air i'th gryfhau.

Mae'r hyn rwyt ti'n ei ofni fwyaf yn dangos i ti lle mae angen i ti dyfu gyda Duw. Beth wyt ti'n ei ofni? Beth yw dy feddyliau pryderus?

Beth mae Duw'n ei ddangos i ti?

Ble mae angen i ti dyfu mewn ffydd?

Ymddirieda ynddo e.

Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

Dangerous Prayers

Wyt ti wedi blino chwarae hi'n saff gyda ffydd? Wyt ti'n barod i wynebu dy ofnau, adeiladu dy ffydd, a rhyddhau dy botensial? Bydd y Cynllun Beibl saith diwrnod hwn gan Craig Groeschel; gweinidog Life.Church; allan o'i lyfr 'Dangerous Prayers', yn dy herio i weddïo'n beryglus - achos doedd dilyn Iesu erioed i fod yn ddiogel.

More

Hoffem ddiolch i'r Parch Craig Groeschel a Life.Church.tv am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.craiggroeschel.com/