Gweddïau PeryglusSampl
Torra Fi
Mae hi'n iawn i weddïo am ddiogelwch a bendithion, ond beth os dw i eisiau mwy? Beth os wyt ti eisiau pŵer gan yr Ysbryd Glân, nerth o'r nefoedd, ffydd ddisymud, agosatrwydd dilys gyda'th Dad?
Yn lle dim ond gofyn i Dduw dy gadw yn saff, rhoi mwy i ti,. ac amddiffyn dy fywyd, falle bydd rhaid i ti ofyn i Dduw dy dorri.
Pan dw i'n meddwl am weddïo'r weddi hon, "Arglwydd, torra fi," dw i'n meddwl am y profiad gafodd Amy a fi'n ein grŵp bach. Ar nos Fercher wyntog ac oer ym mis Ionawr roedden ni'n eistedd mewn ystafell gysurus gyda saith neu wyth o gyplau eraill yn siarad am y weddi beryglus hon.
Cytunodd pawb eu bod eisiau ei gweddïo - ac yn ei golygu - ond yn methu gwadu bod arnon ni ofn y goblygiadau. Cymerodd y fenyw gyntaf a siaradodd y posibilrwydd o ddifri ond fe wnaeth gydnabod ei strygl. Fel gwraig a mam gariadus i bedwar o blant, roedd wedi dilyn Iesu'n ffyddlon ers iddi fod ym mlwyddyn deg yn yr ysgol uwchradd. Roedd hi'n gweithio gyda'r plant yn yr eglwys, degymu'n ffyddlon, helpu i feithrin plant, mynychu astudiaeth Beiblaidd yn wythnosol ac yn aml yn arwain y gweddi mewn grwpiau.
Ond wrth wynebu'r opsiwn o ofyn i Dduw ei thorri, gwrthododd. “Sori, ond mae’n rhaid i mi fod yn onest,” meddai. “Dw i ddim eisiau gofyn i Dduw fy nhorri. Mae gen i ofn beth fydd yn digwydd. Dw i'n fam gyda phedwar plentyn. Dw i'n eu caru gormod. Mae gofyn i Dduw fy nhorri, yn syml, yn rhy ddychrynllyd imi weddïo byth. Beth os bydda i'n mynd yn sâl neu'n isel fy ysbryd neu'n cael fy nhynnu oddi wrth fy nheulu."Cytunodd y rhan fwyaf o weddill y grŵp gan nodio.
Ond mae fy nghwestiwn wedyn yn aros yr un peth i bob un ohonom heddiw: beth ydym ni'n ei golli trwy lynu wrth ein cysur?
Beth dŷn ni'n colli allan arno oherwydd ein bod ni dal gafael gymaint er mwyn osgoi poen ac anesmwythder?
Dwedodd Iesu, " Bydd y rhai sy'n ceisio achub eu hunain yn colli'r bywyd go iawn, ond bydd y rhai hynny sy'n barod i ollwng gafael yn eu bywydau er fy mwyn i, yn dod o hyd i fywyd go iawn" (Mathew, pennod 16, adnod 25). Tydi Iesu ddim yn ein gwahodd i fyw bywyd cysurus a rhwydd, ond un o ildiad ac aberth. Ni ddylai ein dymuniad uchaf fod i'n hewyllys gael ei wneud, ond i'w ewyllys e gael ei wneud. Ac mae Iesu yn ein gwahodd i farw i'n bywydau ein hunain, fel y gallwn fyw o bryd i'w gilydd, o ddydd i ddydd - iddo ef. Gadael ein hystafelloedd byw clyd a gweddïau diogel er mwyn gwybod beth yw ystyr cael eich torri er mwyn eraill.
Trwy ei chwarae hi’n ddiogel dŷn ni mewn perygl o golli rywbeth llawer mwy gwerthfawr na’n diogelwch a’n cysur. Dydyn ni ddim yn sylweddoli pa fendithion a allai fod yr ochr arall i Dduw'n ein torri.
Dwedodd Luc, "Yna cymerodd dorth o fara, ac yna, ar ôl adrodd y weddi o ddiolch, ei thorri a'i rhannu i'w ddisgyblion. “Dyma fy nghorff i, sy'n cael ei roi drosoch chi. Gwnewch hyn i gofio amdana i” (Luc, pennod 22, adnod 19). Mae bron pob ysgolhaig o’r Beibl yn cytuno bod cyfarwyddyd Iesu i “wneud hyn” yn darparu ffordd i gredinwyr gofio, anrhydeddu, a dathlu ei farwolaeth a’i atgyfodiad. Ond mae rhai yn credu bod “gwneud hyn” Iesu hefyd yn cyfeirio at sut dŷn ni i fyw. Beth pe na bai Iesu'n siarad am ddefod dŷn ni'n ei gwneud yn yr eglwys yn achlysurol? Beth pe bai hefyd yn ein gwahodd i gael ein torri a'n tywallt bob dydd? Beth pe bai gennym y dewrder, yr hyfdra, y ffydd i weddïo, “Duw, torra fi”?
Dydyn ni ddim ond yn cofio Iesu yn ystod y Cymun Sanctaidd yn yr eglwys. Dŷn ni'n ei gofio yn y ffordd dŷn ni'n byw ein bywydau bob dydd. Oherwydd bod corff Iesu ’wedi torri, oherwydd bod ei waed wedi’i dywallt drosom, dylem ninnau hefyd fyw bob dydd iddo, wedi ein torri a’n tywallt.
Falle nad yw hyn yn swnio'n apelgar ar yr olwg gyntaf. Pwy sydd eisiau cael ei “dorri” a’i “dywallt”? Mae hynny'n swnio'n boenus ar y gorau, ac yn ddiflas ar y gwaethaf. Ond wrth roi ein bywydau dŷn ni'n dod o hyd i wir lawenydd. Yn hytrach na dilyn ein hewyllys, dŷn ni'n ildio i'w ewyllys. Yn lle ceisio llenwi ein bywydau â phopeth yr ydym ei eisiau, dŷn ni'n gwagio ein bywydau i wneud gwahaniaeth ym mywydau eraill.
Nid digwyddiad un tro yw bod yn doredig gerbron Duw, mae e'n benderfyniad dyddiol. Dwedodd Paul, "Dw i'n wynebu marwolaeth bob dydd" (1 Corinthiaid, pennod 15, adnod 31). Beth mae hynny'n ei olygu? Pob dydd, dewisodd groeshoelio ei ddymuniadau ei hun er mwyn iddo allu byw yn llawn dros Dduw. Os oes gen ti'r dewrder i weddïo'r weddi hon, paratoa. Paratoa i adnabod Duw, a chael dy adnabod gan Dduw, mewn ffordd nad wyt ti wedi'i brofi o'r blaen.
Wyt, ti'n gallu ei chwarae hi'n saff. Ond rwyt ti eisiau mwy na hynny. Dw i'n dewis mentro. Dw i'n fodlon mentro'r cwbl. Wna i fyth sarhau Duw gyda meddwl bach na byw'n ddiogel. Os oes bendithion yr ochr arall i moethusrwydd, yna torra fi.
Am y Cynllun hwn
Wyt ti wedi blino chwarae hi'n saff gyda ffydd? Wyt ti'n barod i wynebu dy ofnau, adeiladu dy ffydd, a rhyddhau dy botensial? Bydd y Cynllun Beibl saith diwrnod hwn gan Craig Groeschel; gweinidog Life.Church; allan o'i lyfr 'Dangerous Prayers', yn dy herio i weddïo'n beryglus - achos doedd dilyn Iesu erioed i fod yn ddiogel.
More