Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gweddïau PeryglusSampl

Dangerous Prayers

DYDD 1 O 7

Pam ddylai dy Weddïau fod yn rhai Peryglus

Fel cymaint o bobl fe wnes i stryglo i weddïo'n gyson ac effeithiol am flynyddoedd. Hyd yn oed gyda bwriadau da, roedd fy meddwl yn crwydro neu ro'n i'n diflasu wrth weddïo. Fel gweinidog ifanc, perswadiodd ffrind i mi ei bod hi'n amser am newid. Am llawer iawn gormod o amser ro'n i wedi goddef gweddïau di-gred gan wybod fod Duw eisiau mwy gennyf, a ro'n i ei eisiau e'n agosach.

"Hei, Craig, wyt ti'n credu fod Duw'n dal i gyflawni gwyrthiau?"

"Wrth gwrs." atebais.

"Gwych achos mae dy weddïau mor wan."

Wnes i drio chwerthin gydag e, ond roedd beth ddwedodd e'n brifo - a hynny am ei fod e'n iawn.

A minnau heb ateb iddo, wnes i'm cynnig esgus a cheisiais brosesu gwirionedd ei sylw. Doeddwn i ddim eisiau cyfaddef ei fod yn lleisio beth o'n i'n wybod yn barod, a bod fy ngweddïau'n druenus.

Mae'r cynllun hwn ar gyfer unrhyw un sy'n teimlo ei fod yn sownd mewn rhigol gweddi, yn gweddïo gweddïau ailadroddus, rhagweladwy a saff.

Dŷn ni'n wasanaethu Duw sy'n gallu gwneud mwy nag y gallwn ni ei ofyn neu ei ddychmygu. Felly, mae'n amser i stopio chwarae'r gêm ddiogel. Chawsom ni mo'n creu ar gyfer bywyd cyfforddus. Dŷn ni'n angerddol a phwerus, yn gyfrifol am newid y byd mewn ffyrdd radical! Dw i'n credu y bydd y cynllun hwn yn dy annog i dorri drwy'r ffiniau ac yn eich ysbrydoli i weddïo'n beryglus ac i fyw'n eofn.

Wrth imi astudio’r Beibl yn fwy, mi wnes i ryfeddu at yr amrywiaeth o weddïau a siaredir gan bobl Dduw. Nid yn unig roedden nhw'n gweddïo am bethau a oedd yn hynod bersonol - i feichiogi plentyn, er enghraifft (1 Samuel, pennod 1, adnod:27) - ond roedd eu gweddïau yn aml mor ymarferol, am fwyd a darpariaeth (Mathew, pennod 6, adnod 11) a dianc oddi wrth eu gelynion (Salm 59 adnodau 1–2). Weithiau roedden nhw fel pe baen nhw'n sibrwd yn ysgafn at Dduw cariadus. Bryd arall, buon nhe'n gweiddi arno mewn poen a rhwystredigaeth.

Roedd eu gweddïau'n rhai onest. Anobeithiol. Tanllyd. Barus, Gwir. Ac roedden nhw'n gweddïo i Dduw fy nghadw i'n ddiogel a bendithio fy mhysgodyn a sglodion.

Roedd fy ffrind yn iawn.

Roedd fy ngweddïau'n wan.

Falle dy fod yn gallu uniaethu. Nid nad wyt yn credu mewn gweddi. Ti yn. Ond rwyt ti wedi dy ddal mewn rhigol. Rwyt ti'n gweddïo am yr un brwydrau a'r un ceisiadau. Yn yr un ffordd. Ar yr un pryd. Os wyt hyd yn oed yn ceisio gweddïo. Mae'n siŵr dy fod yn gwybod y dylet ti weddïo mwy, gyda mwy o angerdd. mwy o ffydd. Rwyt ti eisiau siarad i Dduw a gwrnado arno, rhannu sgwrs bersonol agos, fel baset ti gyda'th briod neu ffrind gorau. Ti eisiau go iawn ond ddim yn siŵr sut i wneud. Felly mae dy weddïau'n aros yn saff.

Fflat, Dwl, Rhagweladwy, Hen, Diflas.

Fe wnaeth sylw fy ffrind fy neffro a'm argyhoeddi ei bod yn amser am newid yn fy mywyd o weddi. Am ormod o amser dw i wedi goddef gweddïau diffygiol, di-ffydd a gwag yn bennaf. Ro'n i'n gwybod fod Duw eisiau mwy i mi. ac ro'n i eisiau perthynas agosach, er gwaethaf fy mhetruster ynghylch yr hyn y byddai ei angen arnaf.

Pan dŷn ni'n ceisio cyfathrebu â Duw mewn gweddi go iawn, bregus a llawn mynegiant, dydy e ddim yn ein diogelu mewn swigen o ddiogelwch ysbrydol. Yn lle hynny, mae e'n byrstio ein swigen sut dw i'n mynd i fod ar fy ennill ac yn ein gwahodd i'w drystio e pan nad ydyn ni'n gwybod beth fydd yn ei wneud nesaf. Rhai diwrnodau dŷn ni'n teimlo ein bod wedi ein bendithio. Ar ddiwrnodau eraill dŷn ni'n wynebu heriau, gwrthwynebiad, ac erledigaeth. Ond byth pob eiliad o weddi beryglus yn llawn o'i bresenoldeb.

A wyt ti'n barod am fwy? Wyt ti wedi blino chwarae'n saff? A wyt ti'n barod i weddïo gweddïau beiddgar, llawn ffydd, yn anrhydeddus o Dduw, fydd yn newid bywyd, yn newid y byd?

Os wyt ti, mae'r cynllun Beibl hwn ar dy gyfer di.

Ond fe rybuddiodd. Fe fydd anawsterau. Pan fyddi'n gweddïo pethau fel, "chwilia fi, torra fi, anfon fi," byddi'n profi dyffrynnoedd, ymosodiadau, treialon, poen, caledi, digalondid, a hyd yn oed tor-calon. Ond fe fydd yna hefyd, llawenydd ffydd, rhyfeddod gwyrthiau, y rhyddid o ildio, a'r pleser o blesio Duw.

Mae hi'n amser i stopio gweddïo gweddïau saff.

Mae hi'n amser siarad, siarad go iawn ä Duw, a gwrando go iawn ar Dduw.

Mae hi'n amser am weddïau peryglus.

Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Dangerous Prayers

Wyt ti wedi blino chwarae hi'n saff gyda ffydd? Wyt ti'n barod i wynebu dy ofnau, adeiladu dy ffydd, a rhyddhau dy botensial? Bydd y Cynllun Beibl saith diwrnod hwn gan Craig Groeschel; gweinidog Life.Church; allan o'i lyfr 'Dangerous Prayers', yn dy herio i weddïo'n beryglus - achos doedd dilyn Iesu erioed i fod yn ddiogel.

More

Hoffem ddiolch i'r Parch Craig Groeschel a Life.Church.tv am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.craiggroeschel.com/