Gweddïau PeryglusSampl
Mae pawb sy'n gofyn yn derbyn
Yn lle hir, uchel, a ffansi, mae'r gweddïau sy'n symud Duw yn syml, dilys a chalonnog. Ond nid yw syml yr un peth â diogel. A dyna'r rheswm dw i'n gorfod sgwennu hwn. Y camgymeriad mwyaf a wnes yn fy mywyd gweddi, y rheswm roedd fy ngweddïau mor wan, yw fy mod wedi gweddïo'n rhy ddiogel. Ro'n i mewn man cysurus gyda Duw. Doeddwn i ddim ar dân a doeddwn i ddim yn oer. Roedd fy ngweddïau yn ddiflas. Ond nid yw gweddïau llugoer diogel yn ein tynnu ni'n agosach at Dduw nac yn ein helpu i ddatgelu ei gariad at y byd hwn.
Mae gweddïau yn gynhenid beryglus. Fe wawriodd y syniad hwn am weddi arnaf wrth ddarllen am Iesu yn siarad gyda'i Dad yng ngardd Gethsemane, ychydig amser cyn iddo roi ei fywyd ar y groes. Gan wybod beth oedd o'i flaen, gofynnodd Iesu i Dduw a oedd unrhyw ffordd arall. Yna gweddïodd Iesu, nid dim ond disgybl rheolaidd neu berson yn y Beibl, ond IESU, Mab Duw, weddi fregus a pheryglus o ymostwng: "Ond paid gwneud beth dw i eisiau, gwna beth rwyt ti eisiau" (Luc, pennod 22, adnod 4).
Nid yw Iesu byth yn gofyn i ni wneud rhywbeth na fyddai’n ei wneud ei hun. Mae'n ein galw ni i fywyd o ffydd, nid bywyd o gysur. Yn lle dod ato am ffordd o fyw mwy diogel, haws a di-straen, mae Mab Duw yn ein herio i fentro caru eraill yn fwy na ni ein hunain. Yn lle ymroi i'n dyheadau dyddiol, mae'n ein galw i'w gwadu am rywbeth tragwyddol. Yn lle byw yn ôl yr hyn dŷn ni ei eisiau, mae'n dweud wrthon ni am godi ein croesau yn ddyddiol a dilyn ei esiampl.
Dw i'n poeni bod gweddi i lawer o bobl fel prynu tocyn loteri, cyfle mewn bywyd yma ar y ddaear sydd yn ddi-broblem, yn rhydd o straen, yn ddi-boen. I eraill, nid yw gweddi ond yn drefn sentimental, fel adrodd hoff delynegion cân neu odl annwyl o blentyndod. Ac eto, mae eraill yn gweddïo dim ond oherwydd eu bod yn teimlo hyd yn oed yn fwy euog os nad ydyn nhw'n gwneud hynny.
Ond nid yw un o'r gweddïau hyn yn adlewyrchu'r bywyd y daeth Iesu i'w roi i ni.
Yn lle hynny, galwodd arnom i adael popeth i'w ddilyn.
Nid ein herio i adael ein hewyllysiau ein hunain tu cefn i ni'n unig wnaeth Iesu. Roedd e hefyd yn byw ffydd beryglus. Cyffyrddodd â gwahangleifion. Dangosodd ras i buteiniaid. A sefyll yn ddewr yn wyneb perygl. Yna dywedodd wrthym y gallem wneud yr hyn a wnaeth - a mwy.
A dyna pam na allwn setlo'n unig am fendith Duw ar ein bwyd neu “fod gyda ni heddiw.”
Dwedir wrthym yn y Beibl y gallwn "Felly gadewch i ni glosio at orsedd Duw yn hyderus. Mae Duw mor hael!" (Hebreaid, pennod 4, adnod 16a beibl.net). Does dim rhaid i ni agosáu mewn swildod, na theimlo'n lletchwith - gallwn ddod o'i flaen gyda hyder, sicrwydd, a hyfdra. Pan fyddwn yn gweddïo fel hyn, yna "bydd yn trugarhau wrthon ni ac yn rhoi popeth sydd ei angen i ni pan mae angen help arnon ni.(Hebreaid, pennod 4, adnod 16b beibl.net).
Mae dy weddïau o bwys.
Mae'r ffordd rwyt yn gweddïo'n bwysig.
Mae beth rwyt yn weddïo'n bwysig.
Mae dy weddïau'n cyffwrdd Duw.
Am y Cynllun hwn
Wyt ti wedi blino chwarae hi'n saff gyda ffydd? Wyt ti'n barod i wynebu dy ofnau, adeiladu dy ffydd, a rhyddhau dy botensial? Bydd y Cynllun Beibl saith diwrnod hwn gan Craig Groeschel; gweinidog Life.Church; allan o'i lyfr 'Dangerous Prayers', yn dy herio i weddïo'n beryglus - achos doedd dilyn Iesu erioed i fod yn ddiogel.
More