Gras a Diolchgarwch: Byw Yn Llawn Yn Ei RasSampl
Diben Duw i Ti
Mae anadlu anadl ddofn ar ôl glaw gwanwyn ffres, gwrando ar adar y bore yn byrlymu mewn mawl, bod yn llonydd a mwynhau amser tawel gyda Duw - mae’r profiadau hyn i gyd yn dod â munudau o hyfrydwch i’r Arglwydd. Ac wrth i ti dreulio mwy a mwy o amser yn ei greadigaeth, yn ei Air, mewn gweddi, mae'n plannu hadau awydd i'w ddibenion e drosot ti. Wrth iti roi dy galon iddo, mae'n canu'n ôl i'th un di, gan dy alw i gyflawni'r union bwrpas y mae e wedi dy greu ar ei gyfer. Bydd yn fwy nag y gallet ti fyth ei ddychmygu – rwyt ti'n y broses o fod yn gampwaith.
Gweddi:
O Dad, rwyf wrth fy modd bod yn dy gwmni ac yn mwydo yn yr heddwch a'r cariad sydd gen ti tuag ataf. Dw i eisiau'r hyn rwyt ti ei eisiau i mi oherwydd dw i'n gwybod mai dyna yw’r gorau oll. Amen.
Os wnes di fwynhau'r defosiwn hwn ac eisiau parhau i ddysgu sut i brofi gras Duw yn llawn, dos i dayspring.com i gael dy gopi o 100 Days of Grace & Gratitude wedi'i ysgrifennu gan Shanna Noel.
Am y Cynllun hwn
Mae Duw wedi gwneud llawer o addewidion i ti, ac mae'n bwriadu cadw pob un. Ond yn y byd sydd ohoni, mae'n hawdd anghofio daioni a gras Duw. Bydd y defosiwn 7 diwrnod hwn yn dy helpu i gofio ei ras a bendithion toreithiog trwy gynnwys defosiynol, Gair Duw, a gweddi dyddiol fyfyriol. Daw'r astudiaeth hon o'r cyfnodolyn defosiynol 100 Days of Grace & Gratitude gan Shanna Noel a Lisa Stilwell.
More