Gras a Diolchgarwch: Byw Yn Llawn Yn Ei RasSampl
Wedi dy Achub trwy Ras
O’r amser y cawn ein geni, cawn ein cyflyru gan achos ac effaith. Os gwnawn rywbeth da, cawn ein cydnabod a'n canmol. Os byddwn yn gwneud camgymeriad, byddwn yn cael ein barnu a’n dal yn atebol nes iddo gael ei wneud yn iawn. Dŷn ni'n achosi i'n gweithredoedd arwain at wobr, derbyniad ac adferiad. Dyma pam ei bod mor anodd i lawer amgyffred y cysyniad o ras. Trwy drugaredd, bu farw Crist drosom er mwyn dileu sefyllfaoedd dynol; er mwyn inni allu byw’n rhydd o dan ras Duw. Wnaeth marwolaeth Iesu effeithio ar ryddid a gras yn ein bywydau. Does dim rhaid i ni “wneud” dim byd bellach ond ei gredu a'i dderbyn. Wyt ti?
Gweddi:
O Dad, diolch i ti am aberth dy Fab er mwyn imi allu byw yng nghyfamod dy ras. Nawr helpa fi i'w gofleidio'n llawn a cherdded yn y rhyddid sydd bellach yn eiddo i mi. Amen.
Am y Cynllun hwn
Mae Duw wedi gwneud llawer o addewidion i ti, ac mae'n bwriadu cadw pob un. Ond yn y byd sydd ohoni, mae'n hawdd anghofio daioni a gras Duw. Bydd y defosiwn 7 diwrnod hwn yn dy helpu i gofio ei ras a bendithion toreithiog trwy gynnwys defosiynol, Gair Duw, a gweddi dyddiol fyfyriol. Daw'r astudiaeth hon o'r cyfnodolyn defosiynol 100 Days of Grace & Gratitude gan Shanna Noel a Lisa Stilwell.
More