Gras a Diolchgarwch: Byw Yn Llawn Yn Ei RasSampl
Llawenha yn yr Arglwydd
Mae'n hawdd gorfoleddu, gweddïo, a diolch pan fydd bywyd yn mynd yn esmwyth, ond beth am pan fyddi di'n cael trafferth codi o'r gwely? Roedd Iesu’n gwybod y byddai gen ti amseroedd anodd, a’i ateb i ysbryd sy’n cael ei fygu yw mawl – nid am yr strygl, ond am ei bresenoldeb a’i addewid o fywyd tragwyddol gydag e. Mae'n dy garu di. Bu farw drosot ti. A dyna'r holl resymau cywir i lawenhau ynddo a bod yn falch pa waeth bynnag.
Gweddi:
Iesu, dw i’n llawenhau ynot ti y funud yma ac yn diolch i ti o waelod fy nghalon am yr aberth a wnes ti ar y groes i mi. Dw i'n wirioneddol ddiolchgar. Amen.
Am y Cynllun hwn
Mae Duw wedi gwneud llawer o addewidion i ti, ac mae'n bwriadu cadw pob un. Ond yn y byd sydd ohoni, mae'n hawdd anghofio daioni a gras Duw. Bydd y defosiwn 7 diwrnod hwn yn dy helpu i gofio ei ras a bendithion toreithiog trwy gynnwys defosiynol, Gair Duw, a gweddi dyddiol fyfyriol. Daw'r astudiaeth hon o'r cyfnodolyn defosiynol 100 Days of Grace & Gratitude gan Shanna Noel a Lisa Stilwell.
More