Gras a Diolchgarwch: Byw Yn Llawn Yn Ei RasSampl
Trugareddau Newydd Bob Bore
Dychmyga orwedd yn y gwely gyda'r nos, wedi dy lapio yn dy gynfasau, ac yn ailchwarae'r dydd yn dy feddwl - yr holl bethau yr hoffet ti eu gwneud neu eu dweud yn wahanol. Neu efallai bod dy enaid yn ddigalon oherwydd problem llethol. Efallai y byddi hyd yn oed yn dymuno y gallit ddechrau o’r dechrau.. Wel, ti’n gallu. Gyda phob gwawr newydd, mae cariad a thrugareddau Duw yno yn aros iti eu amsugno a dechrau o’r newydd. Ddoe a'r difaru drosodd, a'i ffyddlondeb a'i gariad yn dal i losgi'n gryf gyda phob bore newydd.
Gweddi:
O Dad, dw i'n ddiolchgar ac yn falch, oherwydd dy fod ti'n fy ngharu i gymaint, bod dy drugareddau newydd yn niferus yn fy mywyd bob dydd. Amen.
Am y Cynllun hwn
Mae Duw wedi gwneud llawer o addewidion i ti, ac mae'n bwriadu cadw pob un. Ond yn y byd sydd ohoni, mae'n hawdd anghofio daioni a gras Duw. Bydd y defosiwn 7 diwrnod hwn yn dy helpu i gofio ei ras a bendithion toreithiog trwy gynnwys defosiynol, Gair Duw, a gweddi dyddiol fyfyriol. Daw'r astudiaeth hon o'r cyfnodolyn defosiynol 100 Days of Grace & Gratitude gan Shanna Noel a Lisa Stilwell.
More