Gras a Diolchgarwch: Byw Yn Llawn Yn Ei RasSampl
Rho dy Feichiau
Beth sy'n pwyso ar dy feddwl heddiw? Beth sy'n tynnu dy ysbryd i wahanol gyfeiriadau ac yn dy lethu? Annwyl un, mae Duw yn gwybod amdanyn nhw i gyd. Ac mae'n deall dy fod di'n wan a ddim ond yn gallu trin ychydig ar y tro.. Dyna pam mae'n addo helpu - bydd yn cario dy feichiau drosot ti. Nid oes terfyn amser na phwysau i wneud iddo ddweud, “Rwyt ti wedi cyrraedd dy cwota am y diwrnod.” Y mae ei nerth yn ddiderfyn, ac nid oes dim yn ormod o drafferth ac yn rhy galed iddo. Mae'n cael pleser mawr wrth helpu a gofalu am dy holl anghenion. Ond yn gyntaf mae'n rhaid i ti eu taflu i'w ddwylo e, yna trystio a gorffwys i wybod ei fod wedi eu rhoi dan reolaeth.
Gweddi:
Arglwydd, diolch i ti am dy ras a'th nerth i'm cario trwy'r dydd hwn. Yr wyf yn rhoi fy meichiau i ti yn awr ac yn gorffwys o wybod dy fod wedi eu cymryd, a'th fod gyda mi. Amen.
Am y Cynllun hwn
Mae Duw wedi gwneud llawer o addewidion i ti, ac mae'n bwriadu cadw pob un. Ond yn y byd sydd ohoni, mae'n hawdd anghofio daioni a gras Duw. Bydd y defosiwn 7 diwrnod hwn yn dy helpu i gofio ei ras a bendithion toreithiog trwy gynnwys defosiynol, Gair Duw, a gweddi dyddiol fyfyriol. Daw'r astudiaeth hon o'r cyfnodolyn defosiynol 100 Days of Grace & Gratitude gan Shanna Noel a Lisa Stilwell.
More