Camu i mewn i BwrpasSampl
Cama i mewn i Bwrpas drwy Wasanaeth Anhunanol
Mae Paul yn galw ar y Galatiaid i fyw bywyd sy'n mynegi haelioni anhunanol sy’n cyferbynnu â byd hunanol. Dydy'r rhyddid dŷn ni wedi'i dderbyn gan Dduw ddim yn rhoi penrhyddid i uchelgais hunanol, ond yn hytrach yn gyfle i glodfori Duw a gwasanaethu eraill mewn cariad. (Gweler Galatiaid, pennod 5, adnod 13).
Gallwn edrych ar Iesu fel yr esiampl berffaith o rywun wnaeth gamu i mewn i'w bwrpas drwy wasanaeth anhunanol. Fel dyn roedd yn gwybod am y gost o wasanaeth anhunanol wrth iddo ddweud, "Fy Nhad, gad i'r cwpan chwerw yma fynd i ffwrdd os ydy hynny'n bosib." Eto, ni'n gweld Iesu'n cyflawni'r weithred fwyaf o wasanaeth anhunanol, "Ond paid gwneud beth dw i eisiau, gwna beth rwyt ti eisiau."" Wnaeth e farw fel ein bod ni'n gallu camu i mewn i bwrpas. Wnaeth e farw fel ein bod ni'n gallu helpu eraill i wneud yr un peth (Gweler Mathew, pennod 26, adnod 39).
Wrth i ti weddïo, gofynna i'r Arglwydd ddadlennu i ti'r cyd-destun y gelli di wasanaethu eraill. Falle y byddi'n cael sy hun mewn sefyllfaoedd lle byddi di'n gwasanaethu pobl yn yr eglwys neu yn y gwaith. Beth bynnag fyddi di'n ei wneud, gwna'r cyfan, er anrhydedd i'r Arglwydd oherwydd y cariad a rhyddid mae e eisoes wedi'i roi iti.
Awdur:: Chenaniah Darma
Os hoffet ti mwy o wybodaeth am Goleg C3 dos i drwy glicio yma
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Beth yw fy mhwrpas? Beth ydw i i fod i wneud gyda'm mywyd? Beth yw cynllun Duw ar fy nghyfer? Mae'r rhain i gyd yn gwestiynau mae llawer ohonom yn gofyn ar un adeg yn ein bywydau. Dŷn ni am ymdrechu i ateb rhai o'r cwestiynau hyn wrth i ni ddarganfod sut mae camu i mewn i'th bwrpas. Ymuna gyda rhai o'n myfyrwyr coleg C3 wrth iddyn nhw daflu golau ar y pwnc hwn.
More