Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Camu i mewn i BwrpasSampl

Step into Purpose

DYDD 4 O 5

Dyfalbarhad mewn Ffydd

Mae yna gymaint o arwyr wedi mynd o'n blaen, yn camu i mewn i bwrpas i wneud gwahaniaeth, yn siapio'r byd i'r hyn dŷn ni'n ei weld heddiw.

Mae'r rhain yn cynnwys rhai fel Nelson Mandela, Y Fam Teresa, a hyd yn oed Bethany Hamilton (er gwaethaf ei hanabledd wnaeth ddim rhoi i fyny ar ei phwrpas a galwad).

Gall pob un ohonom ddysgu gan yr arweinwyr anhygoel yma, ac mae cymaint o briodoleddau sydd wedi gwneud iddyn nhw sefyll allan fel arwyr. Fodd bynnag, dw i eisiau ffocysu ar un priodoledd oedd gan y tri ffigwr yma, sy'n ganolog i "Gamu i mewn i Bwrpas", - a hynny ydy dyfalbarhad mewn ffydd!

Gall dyfalbarhad fod yn dasg anodd pan dŷn ni'n byw mewn byd llawn negatifrwydd - yn arbennig felly tuag at Gristnogaeth a Duw. Ond un peth y gelli di fod yn sicr ohono yw bod Duw tu cefn i ti! Os wnaeth ein Creawdwr dy alw a'th greu i bwrpas, mae'n bwriadu i ti ei gyrraedd. Falle ei fod yn edrych yn fwy na ti ar hyn o bryd..a ti'n gwybod beth, MAE E! Ond gad imi dy annog gyda'r stori o sut wnaeth y proffwyd Jeremeia i fodolaeth a sut wnaeth Duw ei alw.

Drwy Jeremeia, pennod 1 (mewn gair neu ddau), dŷn ni'n gweld Duw'n galw Jeremeia i fod yn broffwyd, nid yn unig i'w bobl ond Y CENHEDLOEDD - dyna dasg frawychus ynte? Ond mae Duw'n mynd allan o'r ffordd i sicrhau ac arfogi Jeremeia ar gyfer ei bwrpas (Jeremeia, pennod 1, adnodau 9 i 14). A dweud y gwir roedd tasg Jeremeia yn un enfawr o ran ei bwrpas, ond mae Duw yn addo i Jeremeia na fydd yn ei adael na'i adael.

O'r neges hon gallwn gael y sicrwydd pennaf fod Duw'n bwriadu iti gyrraedd dy bwrpas, hyd yn oed os ydy'r dasg yn edrych yn anodd. Gallwn ddysgu o ddyfalbarhad Jeremeia lwyddo gyda Duw! Gall y gelyn ddim cyffwrdd yr hyn mae Duw wedi'i apwyntio, heblaw ein bod yn rhoi caniatâd iddo. Mae Duw wedi dy alw i fod yn llwyddiannus yn dy fwriad oherwydd mae e'n credu ynot ti a'th greu ar gyfer y peth penodol hwnnw. Mae e gyda thi ac mae gyda thi gefnogaeth y nefoedd yn gyfan gwbl! Felly, dos ati, dyfalbarha a phaid â gwrando ar gelwyddau a digalondid y gelyn. Mae dyfalbarhad yn allweddol wrth i ti weld dy bwrpas yn blodeuo!

Gelli di, yr union berson sy'n darllen hwn, fod yr arwr sydd ei hangen ar y byd hwn, felly cwyd dy galon, a gwrnado ar yr addewid roddodd Duw i Jeremeia - "Byddan nhw'n trio dy wrthwynebu di, ond yn methu, am fy mod i gyda thi yn edrych ar dy ôl,” meddai'r ARGLWYDD." (Jeremeia, pennod 1, adnod 19)


Awdur||: Ashleigh Meyer

Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

Step into Purpose

Beth yw fy mhwrpas? Beth ydw i i fod i wneud gyda'm mywyd? Beth yw cynllun Duw ar fy nghyfer? Mae'r rhain i gyd yn gwestiynau mae llawer ohonom yn gofyn ar un adeg yn ein bywydau. Dŷn ni am ymdrechu i ateb rhai o'r cwestiynau hyn wrth i ni ddarganfod sut mae camu i mewn i'th bwrpas. Ymuna gyda rhai o'n myfyrwyr coleg C3 wrth iddyn nhw daflu golau ar y pwnc hwn.

More

Hoffem ddiolch i C3 Church Sydney Pty Ltd am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: ttps://www.c3college.com/