Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Camu i mewn i BwrpasSampl

Step into Purpose

DYDD 3 O 5

Pwrpas wedi'i Symleiddio

Mae'r syniad o "bwrpas" yn rhywbeth ro'n i reit ddryslyd amdano wrth dyfu i fyny yn yr eglwys.

Sut oedd Duw eisiau fy nefnyddio i? Pryd o'n i'n mynd i ffeindio allan? Beth o'n i i fod i'w wneud tan hynny? Buaswn i'n gofyn y cwestiwn hwn yn aml ac yn digalonni wrth fethu cael ateb.

Roedd hynny'n strygl cyson nes imi, un diwrnod, ddod ar draws adnod wnaeth, ar fy ngwir, newid fy mywyd: "Wrth fwyta ac yfed, neu wneud unrhyw beth arall wir, dylech chi anrhydeddu Duw"(1 Corinthiaid 10, adnod 31)

Datguddiad yn mynnu ei le.

Do, mae Duw wedi manylu cynlluniau manwl ar gyfer pob un ohonom. Ydy, mae dy bwrpas yn wahanol i bawb. Ond mae'r cyfan hyn oll yn bodoli ar gyfer un pwrpas trosfwaol, cyfunol a chynhenid: i ddod â gogoniant i Dduw.

Dydy Duw ddim yn chwilio am hwb i'r hunan! Mae ei alwad i gael ei glodfori yn dod allan o'i gariad mawr tuag atom. Mae e'n gwybod pan ydym yn sylweddoli ei ddaioni ac yn priodoli ei werth iddo, ein bod yn derbyn datguddiad ac yn dechrau deall Ei gariad tuag atom ar lefel ddyfnach. Mae'r cariad hwn yn newid popeth.

Mae Duw'n ein caru hyd yn oed os nad ydyn ni'n ei glodfori ai peidio, ond ei ddymuniad yw ein bod yn gwybod llawnder y cariad hwnnw. Pob gogoniant i Dduw! Dyma ein pwrpas.

Awdur: Hannah White

Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Step into Purpose

Beth yw fy mhwrpas? Beth ydw i i fod i wneud gyda'm mywyd? Beth yw cynllun Duw ar fy nghyfer? Mae'r rhain i gyd yn gwestiynau mae llawer ohonom yn gofyn ar un adeg yn ein bywydau. Dŷn ni am ymdrechu i ateb rhai o'r cwestiynau hyn wrth i ni ddarganfod sut mae camu i mewn i'th bwrpas. Ymuna gyda rhai o'n myfyrwyr coleg C3 wrth iddyn nhw daflu golau ar y pwnc hwn.

More

Hoffem ddiolch i C3 Church Sydney Pty Ltd am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: ttps://www.c3college.com/