Camu i mewn i BwrpasSampl
Pwrpas mewn Disgwyl
Dŷn ni'n byw mewn cenhedlaeth y microdon. Rhaid i bopeth ddigwydd nawr. Fedrwn ni ddim disgwyl, ac mae'n rhaid i ganlyniadau fod ar amrantiad. Mae'r un peth yn gallu bod weithiau gyda sut dŷn ni'n gweld ein pwrpas.
Falle ein bod yn credu fod Duw wedi ein galw i rywbeth - arwain miloedd mewn addoliad, i gael busnes llwyddiannus ac ennill cyflog, dod o hyd i'n cymar oes a phriodi, i deithio'r byd yn pregethu'r efengyl...mae'r rhestr yn mynd ymlaen ac ymlaen. Does dim o'i le mewn credu fod y rhain yn mynd i ddod yn wir. Fodd bynnag, yn amlach na pheidio mae'n rhaid disgwyl i gyrraedd y lle hwnnw!
Mae'n debygol mai tua 15 oed oedd Dafydd pan gafodd ei eneinio gan Samuel i ddod yn frenin ar Israel, ac eto ni ddigwyddodd hynny nes ei fod yn 30 oed (2 Samuel, pennod 5, adnod 4). Yn y blynyddoedd hynny o ddisgwyl cafodd Dafydd ei baratoi gan Dduw i fod yn frenin. Yn yr anialwch, ble mai Duw oedd y cwbl y gallai ddibynnu arno, dysgodd Dafydd rai o wersi mwyaf gwerthfawr ei fywyd,
Mae astudio'r Salmau yn rhoi mewnwelediad i ni o'r tristwch brofodd Dafydd, y dagrau a gollodd, ond sut y dysgodd am ffyddlondeb Duw, am ei gariad mawr, a sut y gallai Dafydd ffeindio nerth a lloches ynddo e. Darllena Salm 25. Cafodd Dafydd ei ffurfio yn y cyfnod hwn i fod yn ddyn mawr, duwiol gafodd ei apwyntio gan Dduw i fod yn frenin ar Israel.
Yn union fel Dafydd, mae'r disgwyl yn dymor ble gall pethau fod yn anodd, ond mae'n dymor ble gall Duw ein paratoi ni ar gyfer popeth sydd o'n blaen, wrth i ni gamu i mewn i'r cwbl sydd ganddo ar ein cyfer! Bydd yn dawel dy feddwl fod Duw'n mynd gyda thi wrth iti gamu allan tuag at y pethau gwych sydd ganddo ar dy gyfer.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Beth yw fy mhwrpas? Beth ydw i i fod i wneud gyda'm mywyd? Beth yw cynllun Duw ar fy nghyfer? Mae'r rhain i gyd yn gwestiynau mae llawer ohonom yn gofyn ar un adeg yn ein bywydau. Dŷn ni am ymdrechu i ateb rhai o'r cwestiynau hyn wrth i ni ddarganfod sut mae camu i mewn i'th bwrpas. Ymuna gyda rhai o'n myfyrwyr coleg C3 wrth iddyn nhw daflu golau ar y pwnc hwn.
More