Camu i mewn i BwrpasSampl
Nes dy fod ddim yn cyffwrdd y ddaear
Mae gweledigaeth yn hollbwysig i gamu mewn i'th bwrpas.
Mae Eseciel, pennod 47 yn dweud wrthon ni am y "dŵr yn tarddu allan o dan drothwy y deml", y lle Sancteiddiolaf (Eseia, pennod 6, adnodau 1 i 6). Mae'r darn hwn yn bwerus oherwydd ei fod yn dangos os byddi'n mynd ar ôl sancteiddrwydd Duw, y byddi; heb amheuaeth; yn derbyn gweledigaeth o fwriad Duw ar dy gyfer.
Ond, fel mae'r darn yn dangos, dydy hwn ddim yn cael ei gyflawni mewn lle o gyfforddusrwydd.
Mae Eseciel yn symud ymlaen drwy bedair lefel wahanol cyn iddo allu gweld. Mor aml dŷn ni'n gofyn i Dduw ddatgelu ein bwriad, ond dŷn ni ond yn fodlon mentro at ein migyrnau. Y weledigaeth mae Eseciel yn ei gweld yw un o fywyd helaeth wedi'i gynnal o fod yng nghyffiniau sancteiddrwydd Duw (y ffrydiau o ddŵr, gweler Salm 1, adnodau 1 i 3). Mae pethau sy'n crwydro i ffwrdd yn llonydd ac yn ddifywyd (Eseia, pennod 47, adnod 11).
Os wyt ti eisiau eglurder a gweledigaeth barhaus i'th bwrpas, mae angen i ti fentro i berthynas â Duw sy'n gwthio'ch ffiniau. Un, ble rwyt ti wedi ymgolli ynddo, ble nad yw dy draed yn cyffwrdd gwaelod dy le o gyfforddusrwydd. Yn y lle hwn y byddi di'n ildio dy reolaeth ac, o ganlyniad, yn cael dy gario i mewn i bwrpas sy’n cynnwys llawnder bywyd.
Awdur: Candace Tossas
Am y Cynllun hwn
Beth yw fy mhwrpas? Beth ydw i i fod i wneud gyda'm mywyd? Beth yw cynllun Duw ar fy nghyfer? Mae'r rhain i gyd yn gwestiynau mae llawer ohonom yn gofyn ar un adeg yn ein bywydau. Dŷn ni am ymdrechu i ateb rhai o'r cwestiynau hyn wrth i ni ddarganfod sut mae camu i mewn i'th bwrpas. Ymuna gyda rhai o'n myfyrwyr coleg C3 wrth iddyn nhw daflu golau ar y pwnc hwn.
More