Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Blas ar y Beibl 2Sampl

Blas ar y Beibl 2

DYDD 3 O 28

Darlleniad: Ioan 8:31-32

Beth yw disgybl?

Trwy’r Efengylau (Mathew, Marc, Luc a loan) mae un gair yn cael ei ddefnyddio yn amlach nac unrhyw air arall i ddisgrifio’r berthynas rhwng lesu a’i ddilynwyr. Y gair ‘disgybl’ ydy hwnnw. Ystyr y gair ydy ‘un wedi ei hyfforddi’ neu ‘ddysgwr’. Disgyblion yw’r bobl hynny sy’n dilyn athro enwog ac yn cael eu hyfforddi ganddo mewn rhyw bwnc arbennig, neu ddysgu ganddo sut i gyflawni tasg arbennig. Wrth i’r ‘myfyrwyr’ syllu ar eu hathro, ei garu, dysgu ganddo a’i efelychu, maent yn eu cael eu hunain yn tyfu’n debycach iddo mewn mwy nag un ffordd. Maent yn dechrau siarad a meddwl yn debyg iddo.

Heddiw gad i ni eistedd wrth draed Athro mwyaf pob oes - ein Harglwydd Iesu Grist, a dysgu cymaint ganddo fel ein bod yn dod yn debyg iddo ym mhob agwedd ar ein bywydau. Heddiw dw i’n dy wahodd i gofrestru yn Ysgol Disgyblion lesu Grist. Iesu Grist ei hun ydy’r prifathro. Mae un gwerslyfr sylfaenol - y Beibl. Mwyaf o amser y medri di ei dreulio’n darllen y Beibl, cyflyma yn y byd y byddi’n tyfu fel Cristion ac yn dod yn debycach i lesu Grist. Fedrith neb fod yn ddisgybl da i lesu Grist heb dreulio peth amser bob dydd yn darllen ei Air.

Gad i ni weddïo am ei help: Dad Nefol, rwy’n gweld heddiw fod rhaid i mi dreulio cymaint o amser ag sydd modd yn darllen dy Air er mwyn dod yn debyg i’th Fab Di, yr Arglwydd lesu Grist. Nertha fi i dreulio amser yn ffyddlon bob dydd yn darllen dy werslyfr rhyfeddol — y Beibl.

BDGI - addasiad Alun Tudur

Ysgrythur

Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Blas ar y Beibl 2

Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru. Mae Blas ar y Beibl 2 yn addasiad gan Alun Tudur o Bob Dydd Gyda Iesu. Defnyddir gyda chaniatâd y cyhoeddwyr.

More

Hoffem ddiolch i Arfon Jones, gig a beibl.net, am ddarparu’r cynllun hwn.