Blas ar y Beibl 2Sampl
Darlleniad: Mathew 28:16-20
Mae Iesu eisiau disgyblion
Roedd y geiriau olaf ddwedodd lesu wrth ei ddisgyblion, cyn iddo fynd yn ôl i’r nefoedd, yn cynnwys gorchymyn clir i fynd a gwneud disgyblion ym mhob gwlad drwy’r byd. Ar hyd a lled y byd heddiw mae gan Gristnogion o bob traddodiad diddordeb mawr yn y syniad o ddarganfod beth ydy ystyr ‘Bod yn ddisgybl’. Mae pobl yn gofyn cwestiynau fel: “Yda ni fel Cristnogion yn ddisgyblion go iawn i’r Arglwydd Iesu Grist?’ “Sut allwn ni ddarganfod beth mae’r Arglwydd yn ei ddisgwyl gynnon ni sy’n ddilynwyr iddo?” Mi ryda ni am ymuno â’r miloedd o bobl ar hyd a lled y byd sy’n gofyn y cwestiynau hyn, a dechrau heddiw drwy geisio darganfod beth yw ystyr y gair pwysig yma sef - disgybl. Wrth i’n byd ni fynd yn fwy cymysglyd a di-drefn, dydy gwisgo bathodyn, sticer Cristnogol neu groes ddim yn ddigon. Rhaid i ni ddysgu bod yn ddisgyblion yng ngwir ystyr y gair. Gadewch i ni ofyn i’r Arglwydd ein helpu ni ddeall yn iawn beth yw ‘bod yn ddisgybl’.
Arglwydd lesu Grist - fel un o’r miliynau o bobl sy’n ceisio deall yn iawn beth ydy ystyr bod yn ddisgybl, rwy’n gofyn i Ti heddiw roi calon ddeallus i mi, a meddwl effro i ddysgu rhywbeth newydd am y pwnc. Er mwyn dy enw. Amen.
BDGI - addasiad Alun Tudur

Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru. Mae Blas ar y Beibl 2 yn addasiad gan Alun Tudur o Bob Dydd Gyda Iesu. Defnyddir gyda chaniatâd y cyhoeddwyr.
More
Hoffem ddiolch i Arfon Jones, gig a beibl.net, am ddarparu’r cynllun hwn.