Trawsnewidiad Mab Colledig gyda Kyle IdlemanSampl
"Gras i'r ddau fab"
Roedd y mab hynaf yn ddig iawn ar ôl gweld beth wnaeth ei dad. Mae'n debygol fod y mab hŷn hwn wedi gweithio'n galed a ffyddlon a thrin y tir yn ffyddlon, ond roedd ar goll yn nhŷ ei dad.
Doedd yna ddim deffroad. Doedd dim gonestrwydd. Doedd dim gweithredu.
Mewn gwirionedd, roedd e hefyd yn fab wnaeth wrthryfela. Roedd ganddo e, hefyd, galon oedd yn bell o'i dad. Roedd e hefyd ar goll ond allai e ddim gweld hynny. Fel hyn mae Tim Keller yn esbonio'r peth, "Roedd y mab drwg ar goll yn ei ddrygioni, ond roedd y mab da ar goll yn ei ddaioni."
Falle nad wyt wedi bod i wlad bell. Falle fod gennyt ail ddechreuad crefyddol trawiadol. Falle dy fod wedi dilyn y rheolau i gyd. Falle dy fod wedi darllen yr hol llyfr hwn gan wybod pwy o'r bobl yn y wlad bell sydd angen ei glywed. Ond ysgwn i os mai ti yw'r un bu Iesu'n siarad iddo ar hyd yr amser?Yn ffodus iawn pan oedd y brawd hynaf yn y cae, gadawodd y tad y dathliad a mynd allan ato. Aeth i'r afael â'i fab yn uniongyrchol.
Beth mae hyn yn ei ddweud wrthym am Dduw? Mae Duw'n hiraethu am berthynas gyda'i blant, pa un ai os yw dy fywyd yn debyg i un y mab hynaf neu ieuengaf.
Hyd yn oed ar ôl dewisiadau sarhaus a byw'n wastraffus, cofleidiodd ei dad e a'i gusanu. Ac ar ôl geiriau llym ac amarch y mab hynaf, esboniodd ei dad ei hun iddo. Ni fyddai'r patriarch erioed wedi gorfod egluro ei hun yn yr hen amser. Nid democratiaethau oedd cartrefi; unbenaethau oedden nhw. Ac eto atebodd y tad ddicter y brawd hŷn gydag amynedd a gras tyner.
Dŷn ni'n disgwyl i Dduw fod yn dad dig sy'n mynnu cyfiawnder, ond drwy Iesu, mae e'n rhoi i ni gariad a gras pan nad ydyn ni'n ei haeddu. Yn y pen draw dydy'r stori'n Luc, pennod 15 ddim am ddau fab sy'n anufuddhau. Mae e am Dad sy'n caru ei blant yn ddiamod.
*Pan wy ti wedi pechu, sut wyt ti'n dychmygu Duw a beth mae e'n feddwl amdanat ti? Sut mae ei gariad grasol di-ddiwedd yn bwydo'r broses gyfan o AHA?
A wnest ti fwynhau darllen cynllun darllen hwn? Os felly, i ennill y llyfr cyfan dos i yma
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Wedi'i gymryd o'i lyfr "AHA," ymuna â Kyle Idleman wrth iddo ddarganfod y dair elfen all ein denu'n agosach at Dduw a newid ein bywydau er gwell. Wyt ti'n barod am gyffyrddiad Duw sy'n newid popeth?
More