Trawsnewidiad Mab Colledig gyda Kyle IdlemanSampl
"DEFFROAD - Dileu Newynau" (Awakening)
Darllenais yn ddiweddar am arbrawf wnaed gan y seicolegydd Jonathan Haidt. Lluniodd ymarfer damcaniaethol hynod ddiddorol, a aeth rhywbeth fel hyn:
Cafodd gyfranogwyr grynodeb o fywyd person i'w ddarllen. Gofynnwyd i'r cyfranogwyr ddychmygu wedyn mai eu merch nhe oedd y person. Dyma ei stori nad oes modd ei osgoi, Dydy hi heb ei geni eto, ond fe fydd hi cyn bo hir, a dyma i ble mae ei bywyd yn mynd. Wedyn roedd gan y cyfranogwyr bum munud i olygu ei stori. Gyda rwber yn eu llaw gallai nhw ddileu o'i bywyd hi beth bynnag roedden nhw ei eisiau.
Y cwestiwn i'r cyfranogwyr oedd: Beth dych chi am ddileu gyntaf?Byddai'r rhan fwyaf ohonom yn dileu ar frys unrhyw anabledd dysgu a'r ddamwain car ac anawsterau ariannol. Dŷn ni'n caru ein plant a bydden ni eisiau iddyn nhw fyw bywyd heb y caledi, poenau, ac anawsterau hynny. Bydden ni i gyd yn dymuno i fywydau ein plant fod yn rhydd o boen ac ingoedd.
Ond rhaid gofyn: Ai dyna sydd orau?
A ydyn ni'n meddwl go iawn fod bywyd breintiedig heb unrhyw broblemau am wneud bywydau ein plant yn rhai hapus? Beth os fyddet ti'n dileu sefyllfa anodd fyddai'n eu deffro i weddi? Beth os fyddi di'n dileu caledi fydd yn eu dangos sut i fod yn llawen er gwaetha'r sefyllfa? Beth os fyddi di'n dileu poen a dioddef fyddai'n troi allan i fod yn gatalydd y bydd Duw'n ei ddefnyddio i'w harwain i weiddi arno mewn angen. Beth os fyddi di'n dileu sefyllfa anodd sy'n eu deffro i bwrpas Duw yn eu bywydau?
Efallai ei fod yn swnio'n llym i'w ddweud, ond nid pregethau, llyfrau na grwpiau bach yw'r prif gyfrannwr at dwf ysbrydol; y prif gyfrannwr at dwf ysbrydol yw amgylchiadau anodd. Dw i'n gallu dweud hyn wrthot ti oherwydd profiad personol, darllen. darllen arolygon tyfiant ysbrydol, a fy nhystiolaeth hanesyddol, yn dilyn siarad i filoedd o bobl dros y blynyddoedd. Mae AHA yn tarddu o ddioddefaint, anawsterau a sialensiau bywyd. Gallai llawer o bobl ddwyn i gof y cyfnodau hynny fel eu cyfnodau gorau o ddeffroad ysbrydol.
*Ar ba gyfnodau yn dy fywyd wyt ti wedi profi'r twf ysbrydol mwyaf? A oedden nhw'n gyfnodau o ddigonedd, neu'n gyfnodau caled? A yw Duw'n ceisio dy dyfu di nawr drwy sefyllfa neu dreial anodd?
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Wedi'i gymryd o'i lyfr "AHA," ymuna â Kyle Idleman wrth iddo ddarganfod y dair elfen all ein denu'n agosach at Dduw a newid ein bywydau er gwell. Wyt ti'n barod am gyffyrddiad Duw sy'n newid popeth?
More