Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Trawsnewidiad Mab Colledig gyda Kyle IdlemanSampl

Prodigal Son Transformation With Kyle Idleman

DYDD 5 O 7

"GONESTRWYDD - Gonestrwydd sy'n dod ag Iachâd"

Mae'r rhan fwyaf o Gristnogion yn derbyn yr angen i fod yn onest, gyda nhw eu hunain a chyda Duw. Yn 1 Ioan, mae'r Beibl yn dweud wrthym pan fyddwn yn cyffesu ein pechodau i Dduw, mae e'n ffyddlon a chyfiawn i faddau ein pechodau a'n glanhau o bob anghyfiawnder. Mae'r Beibl yn dweud hefyd fod Iesu wedi wedi cymryd y Duw'n eu maddau.

Fel arfer, byddwn yn dweud nad oes raid i bethau fynd ymhellach na hynny: "Os dw i'n onest efo fi fy hun a chyda Duw, mae hynny'n ddigon." Ond mae AHA yn gofyn am fwy.

Mae Iago, pennod 5, adnod 16 yn sôn am gyfaddef ein pechodau i'n gilydd a gweddïo dros ein gilydd "er mwyn i chi gael eich iacháu." Pan fyddwn yn onest gyda Duw am ein pechodau, mae e'n maddau, ond pan fydden yn onest gydag eraill, dŷn ni'n dod o hyd i iachâd.

Beth mae iachâd yn ei olygu?

Wel, mae'r arfer o gyffesu ein pechodau i'n gilydd yn ein dal yn atebol ac yn ein helpu i gael yr anogaeth dŷn ni ei angen i dorri cylchedd ein strygl. Pan fyddwn yn llusgo beth dŷn ni wedi'i guddio, gerfydd ei wâr i'r golau, bydden yn ei weld yn colli ei afael a phŵer drosom.

Ac mae'r iachâd mae Iago'n siarad amdano yn fwy llythrennol na fyddet ti'n meddwl. Edrycha ar hyn: Mae gwerslyfr seicoleg gyfoes seciwlar o'r enw Coping with Stress yn cadarnhau pŵer iacháu drwy gyfaddefiad. Mae’r awdur yn honni, “fod gan bobl sy’n tueddu i gadw cyfrinachau fwy o gwynion corfforol a meddyliol, ar gyfartaledd, na phobl nad ydyn nhw… [gan gynnwys] mwy o bryder, iselder ysbryd, a symptomau corfforol fel poen cefn a chur pen... Mae'r embaras cychwynnol o gyfaddef yn aml yn csel ei drechu gan y rhyddhad a ddaw wrth roi mewn geiriau agweddau cyfrinachol tywyllaf yr hunan.

Mae Diarhebion, pennod 28, adnod 13 yn adlais i'r canlyniadau hyn, " Fydd y sawl sy'n cuddio'i feiau ddim yn llwyddo; yr un sy'n cyfaddef ac yn stopio gwneud pethau felly sy'n cael trugaredd."

*Sut mae'r weithred o gyfaddef dy feiau i eraill wedi dy helpu'n y gorffennol? A oes yna unrhyw bechodau cudd gennyt rwyt wedi gwrthod dod â nhw i'r golwg.

Diwrnod 4Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

Prodigal Son Transformation With Kyle Idleman

Wedi'i gymryd o'i lyfr "AHA," ymuna â Kyle Idleman wrth iddo ddarganfod y dair elfen all ein denu'n agosach at Dduw a newid ein bywydau er gwell. Wyt ti'n barod am gyffyrddiad Duw sy'n newid popeth?

More

Hoffem ddiolch i David C cook am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://www.dccpromo.com/aha/