Trawsnewidiad Mab Colledig gyda Kyle IdlemanSampl
GWEITHREDU - amser i godi" (Action)
Gweithredu yw ble mae nifer ohonom yn baglu. Dŷn n i'n gwybod beth sydd angen ei wneud, dŷn ni wedi camu allan ar y platfform ond dŷn ni'n methu symud. Mae'n un peth i gael y deffroad a hyd yn oed bod yn onest am yr hyn dŷn ni angen ei wneud. Ond mater arall yn hollol yw cymryd y naid. Yn Luc, pennod 15, adnod 20 dŷn ni'n darllen y cymal syml newidiodd stori'r mab wnaeth wrthryfela. Dwedodd Iesu, "Yna cododd..." (BCN Diwygiedig 1984).
Gweithredodd ar unwaith. Sylweddolodd ei bod hi'n amser i godi. Roedd hi'n amser i wneud rywbeth. Ac os nad yw ein stori ni'n darllen, "Cododd e," neu Cododd hi," does dim, mewn gwirionedd, yn newid.
Dyma ble mae AHA llawer ohonom yn methu gydag AHA. Dŷn ni'n cael ennyd o ddeffroad, a dŷn ni hyd yn oed yn cael y nerth i fod yn galed o onest, ond dŷn ni byth yn cyrraedd at wneud dim yn wahanol. Dŷn n i'n treulio lot o'n bywyd wedi ein dal rhwng gonestrwydd a gweithredu.
Falle fod hyn yn swnio braidd yn oer, neu 'chydig yn sathredig, fodd bynnag y gwir amdani yw bod angen i ni ufuddhau i Dduw, hyd yn oed pan nad ydyn ni'n teimlo fel gwneud. Pan fyddwn yn ufuddhau i Dduw, hyd yn oed heb y cymhelliad i wneud, bydd ein teimladau, maes o law, yn dal i fyny efo'n gweithredoedd.
Edrycha nôl ar dy gynlluniau i weld pa newidiadau rwyt angen i'w gwneud. Mwy na thebyg rwyt ti wedi creu y rhestr o'r blaen, pa un ai ar bapur neu dy feddwl, a rwyt ti'n ymwybodol o beth ydyn nhw. Sylweddola beth yw'r cam cyntaf, fel gwnaeth y mab wnaeth wrthryfela pan ddwedodd wrtho'i hun, "Fe godaf, ac fe af at fy nhad..." Gwyddai beth oedd raid iddo'i wneud, ac fe weithredodd ar hynny. Tyrd o hyd i'th gam cyntaf a gweithreda arno nawr, pa un ai os wyt ti eisiau ai peidio. Ac falle y gweli wrth deithio'r ffordd, gyda chymorth Duw, bod gweithredoedd sydd ar yr olwg gyntaf yn ymddangos yn artiffisial, yn gallu troi'n awthentig.
*Wyt ti wedi dy ddeffro, a bod yn onest efo ti dy hun, ond wedyn heb weithredu a gwneud yr hyn oedd raid? Beth yww'r cam cyntaf y gelli di ei gymryd i ddechrau'r weithred honno?
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Wedi'i gymryd o'i lyfr "AHA," ymuna â Kyle Idleman wrth iddo ddarganfod y dair elfen all ein denu'n agosach at Dduw a newid ein bywydau er gwell. Wyt ti'n barod am gyffyrddiad Duw sy'n newid popeth?
More