Trawsnewidiad Mab Colledig gyda Kyle IdlemanSampl
"DEFFROAD - Dod at dy hun" (Awakening)
Yn amlach na pheidio dŷn ni'n methu clywed y larymau rhybuddio mewn bywyd am nad ydyn ni'n sensitif iddyn nhw. Dydy larwm ysgafn tannau telyn o dda i ddim byd - mae'n mynd i gymryd larwm swnllyd i'n deffro. Felly, yn lle ymateb i'r larwm ar unwaith dŷn ni'n ei roi i hepian. Mae'r larwm yn mynd yn fwy swnllyd nes ei fod mor annifyr fel ei fod yn amhosib i'w anwybyddu ddim mwy. Felly, dŷn ni'n deffro, rhwbio ein llygaid, edrych o'n hamgylch, dim ond i ffeindio moch mab colledig o'n cwmpas, ac yn pendroni ar sut y daeth pethau i'r pwynt yma.
Dyma fy nghwestiwn i ti: A yw'r larymau'n canu yn dy fywyd y funud hon?
Yn yr Ysgrythur ceir sawl enghraifft o sut mae Duw yn canu'r larwm. Yn aml, mae'r larwm yn swnio'n gynnar i'n deffro cyn i bethau chwalu. Weithiau mae pobl yn meddwl bod rhaid iddyn nhw fod ar eu gwanaf cyn iddyn nhw ddod at eu hunain, ond beth os ydy Duw'n ceisio dy ddeffro'r funud hon i'th rwystro rhag torcalon mewn Gwlad Bell yn ddiweddarach?
Mae 2 Cronicl, pennod 36, adnod 15 yn sôn am sut mae Duw'n rhybuddio ei bobl. Dydy "codi'n fuan" ddim yn golygu fod Duw wedi codi o'i wely'n gynnar. Yn hytrach, mae'n fwy tebygol i "weithredu'n gynnar." Yn y cyd-destun hwn fe wnaeth e rybuddio cyn gynted ag oedd wedi sylwi ar y problemau.
Ac yna dŷn ni'n darllen pam y gwnaeth e rybuddio: "...am ei fod yn Dduw oedd yn tosturio wrth ei bobl.." Mae'r larymau hyn er ein budd, am fod Duw'n ein caru.
* A oes yna unrhyw larymau rwyt ti wedi bod yn eu hanwybyddu, gan ddewis hepian yn lle deffro? A fedri di feddwl am unrhyw amser pan wnaeth Duw geisio dy rybuddio er mwyn dy rwystro rhag torcalon neu bechod diweddarach?
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Wedi'i gymryd o'i lyfr "AHA," ymuna â Kyle Idleman wrth iddo ddarganfod y dair elfen all ein denu'n agosach at Dduw a newid ein bywydau er gwell. Wyt ti'n barod am gyffyrddiad Duw sy'n newid popeth?
More