Adennill dy LawenyddSampl
![Recovering Your Joy](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F1279%2F1280x720.jpg&w=3840&q=75)
Rhanna lawenydd dy Iachawdwriaeth.
Darllena Effesiaid, pennod 2, adnod 10.
Mae tri cham arall ar gyfer adennill dy lawenydd i ni siarad amdanyn nhw heddiw.
Yn gyntaf, mae’n rhaid iti dreulio amser gyda Duw bob dydd.
Fe all fod yn anodd i feddwl fod Duw eisiau treulio amser gyda thi. Mae ganddo lond trol o bethau i’w gwneud, onid oes? Ond drwy’r Ysgrythur, mae Duw’n ein gwahodd i mewn i’w bresenoldeb. Ac fe ddaw llawenydd o dreulio amser gyda Duw mewn amser tawel, am ein bodd yn dysgu i wrando ar ei lais a darganfod beth mae e eisiau i ni wneud gyda’n bywydau. Po fwyaf o amser rwyt ti’n treulio gyda Duw, y dyfnaf fydd dy gyfeillgarwch yn tyfu gydag e.
Yn ail, mae angen iti ddod i ffordd o roi nôl. Mae’r Beibl yn dweud yn Effesiaid pennod 2, adnod 10: “Duw sydd wedi'n gwneud ni beth ydyn ni. Mae wedi'n creu mewn perthynas â'r Meseia Iesu, i ni wneud yr holl bethau da mae e wedi'u trefnu ymlaen llaw i ni eu gwneud” (beibl.net). Mewn amseroedd caled, mae’n hawdd iawn bod yn hunanol. Ond y gwir yw, po fwyaf y byddi’n ffocysu arnat ti dy hun, y mwyaf o lawenydd y byddi’n colli.
Dw i wedi teithio ar hyd y lled y byd ac wedi bod mewn sawl gwlad gaeedig ble mae pobl yn cael eu herlid am eu ffydd yn Iesu Grist. Wyt ti’n gwybod beth dw i wedi’i ddarganfod? Y Cristnogion sy’n cael eu herlid yw’r bobl fwyaf llawen yn y byd. Pam? Am ei fod yn golygu rhywbeth iddyn nhw. Dydyn nhw ddim yn Gristnogion achlysurol difater. Mae eu hawl i addoli a’u rhyddid yng Nghrist yn golygu rhywbeth iddyn nhw. Ac maen nhw’n llawer mwy llawen.
Mae angen iti ffeindio ffordd o roi nôl. Unwaith rwyt wedi cymryd y ffocws oddi arnat dy hun, fe ddoi di o hyd o ffordd i lawenydd ddod yn ôl.
Yn olaf, i adennill dy lawenydd, mae angen iti ddweud wrth rywun am Iesu.
Wneith dim byd arall adfer dy lawenydd na bod â chonsyrn am iachawdwriaeth ffrind. Mae’r Beibl yn dweud bod parti yn y nefoedd bob tro y bydd rhywun yn derbyn yr Arglwydd. Wyddost ti fod Luc, pennod 15, adnod 7 yn dweud: “mae mwy o ddathlu am fod un pechadur wedi troi at Dduw” (beibl.net) Y diwrnod y cymeraist ti’r cam, roedd yna barti yn y nefoedd i ti. A’r diwrnod y byddi si’n helpu rhywun i adnabod yr Arglwydd, mae ysan barti’n mynd i fod yn dy galon. Mae’r llawenydd yn dychwelyd wrth iti ei rhannu ag eraill.
Gweddïa’r wedi hon heddiw, “Dduw, helpa fi i ffeirio cariad am gasineb, llawenydd am alar, a charedigrwydd am apathi. Boed i lawenydd yr Arglwydd fod mor amlwg ar fy wyneb fel bod pobl eisiau gwybod pam ac adnabod y gobaith sydd ynof i. Helpa fi i fod yn ufudd i’r hyn rwyt wedi’i ddweud wrthyf i'w wneud. Helpa fi i ffocysu ar dy fendithion yn fy mywyd, fel bod gen i agwedd o ddiolchgarwch am dy ufudd-dod. Adnewydda lawenydd fy iachawdwriaeth fel fy mod yn gallu rhannu’r llawenydd ag eraill a’u helpu nhw i ddod o hyd i’w llawenydd eu hunain drwy berthynas gyda thi. Diolch mod i’n gallu cael gobaith a llawenydd drwy Iesu Grist. Amen.”

Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
![Recovering Your Joy](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F1279%2F1280x720.jpg&w=3840&q=75)
Os wyt ti am gael llawenydd yn dy fywyd, mae’n rhaid i ti ffeindio cydbwysedd yn dy amserlen. Mae Pator rick yn rhannu sut elli di ail-addasu'ch mewnbwn a'ch allbwn fel y gall dy roi a derbyn dy helpu i adennill dy lawenydd, a pheidio ei golli.
More
Y defosiwn hwn © 2014 by Rick Warren. Cedwir pob hawl. defnyddiwyd gyda chaniatâd.