Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Adennill dy LawenyddSampl

Recovering Your Joy

DYDD 4 O 5

Ufudd-dod yw’r Gyfrinach ar gyfer Llawenydd.

Darllena Galarnad pennod 3, adnod 4.

Mae llawenydd yn beth hawdd ‘iawn i’w golli, ond mae’n hawdd iawn i’w gael yn ôl hefyd. Ar ôl cyfaddef dy fod wedi colli dy lawenydd, rwyt ti angen dadansoddi’r rheswm. Rwyt ti angen edrych ar dy fywyd a gofyn i’th hun, “Sut wnes i golli fy llawenydd? Beth sy’n dwyn fy llawenydd i?”

Mae’r Beibl yn dweud mewn sawl lle i archwilio ein bywyd. Mae Galarnad pennod 3, adnod 40 yn dweud, “Gadewch i ni edrych yn fanwl ar ein ffordd o fyw, a throi nôl at yr ARGLWYDD” (beibl.net).

Mae yna gannoedd o faglau mewn bywyd, ond y ddau fwyaf cyffredin dw i’n gweld ym mywydau pobl ydy amserlen anghyson a diffyg defnyddio dawn. Mae’n rhaid iti gael cydbwysedd rhwng gorffwys a gwaith, a faint rwyt yn rhoi mewn a rhoi allan. Ac mae’n rhaid iti dy ddefnyddio dy ddoniau unigryw Duw-roddedig, neu rwyt yn mynd i fod yn rhwystredig. Cymra pa bynnag ganran o dy ddawn dwyt ti heb ei ddefnyddio yn dy waith, a defnyddia e yn dy weinidogaeth. Os wyt ti mewn gwaith ble wyt ti’n defnyddio llai na 25 y cant o dy ddawn, ymddiswydda.

Unwaith rwyt wedi darganfod sut wnest ti golli dy lawenydd, mae angen iti wneud yn iawn am hynny.

Wyt ti’n gwybod beth sy’n mynd i ddwyn llawenydd oddi arnat ti gyflymaf nag unrhyw beth? Pan wyt ti’n gwybod beth yw’r peth iawn i’w wneud a ddim yn ei wneud.
Mae’r Beibl yn dweud yn Iago, pennod, adnod 17, “Felly cofiwch, os dych chi'n gwybod beth ydy'r peth iawn i'w wneud, ac eto ddim yn ei wneud, dych chi'n pechu" (beibl.net). `

Felly, gad imi ofyn iti: Beth wyt ti’n gwybod sydd raid iti ei wneud a dwyt ti ddim yn ei wneud? Beth mae Duw wedi dweud wrthyt ti am wneud a dwyt ti heb ddechrau eto?

Y gyfrinach i lawenydd cyson, toreithiog ac sy’n gorlifo, yw ufudd-dod. Gwneud beth mae Duw wedi dweud wrthyt am wneud. Pob tro y byddi’n gwneud beth mae Duw wedi dweud wrthyt i wneud, mae dy fywyd yn mynd i fod yn llawn llawenydd.

Rwyt hefyd yn mynd i fod yn llawn llawenydd pan fyddi’n meddwl am beth sy’n digwydd yn dy fywyd. Mae Dafydd yn dweud yn Salm 126, adnod 3, “Ydy, mae'r ARGLWYDD wedi gwneud pethau mawr i ni. Dŷn ni mor hapus!" (beibl.net). Po fwyaf y byddi’n ffocysu ar beth mae Duw wedi’i wneud drosot ti, y mwyaf fydd y llawenydd yn dy fywyd. Pam? Am ei fod yn meithrin ar ddiolchgarwch. A’r agwedd o ddiolchgarwch yw’r emosiwn dynol mwyaf iachus.

Os wyt ti eisiau cael dy lawenydd yn ôl, rhaid iti gyfaddef gyntaf ei fod wedi mynd, yna rwyt yn dadansoddi’r rheswm. Yna, gwna’n iawn yr hyn sydd o’i le, a chael agwedd o lawenydd. Yfory wnawn ni siarad am y tri cham olaf ar gyfer adennill dy lawenydd.
Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

Recovering Your Joy

Os wyt ti am gael llawenydd yn dy fywyd, mae’n rhaid i ti ffeindio cydbwysedd yn dy amserlen. Mae Pator rick yn rhannu sut elli di ail-addasu'ch mewnbwn a'ch allbwn fel y gall dy roi a derbyn dy helpu i adennill dy lawenydd, a pheidio ei golli.

More

Y defosiwn hwn © 2014 by Rick Warren. Cedwir pob hawl. defnyddiwyd gyda chaniatâd.

Cynlluniau Tebyg