Adennill dy LawenyddSampl
Dod o Hyd i'th Lawenydd Coll.
Darllena Rhufeiniaid pennod 14, adnod 17.
Beth yw’r peth hawsaf y gelli di ei golli? Dy Sbectol? Dy oriadau? Dy gof?
Ỳ peth hawsaf i’w golli yw llawenydd. Gelli di ei golli gydag un galwad ffôn, e-bost, llythyr neu sgwrs. Gelli edrych ar hysbyseb ar y teledu a’i golli. Mae’r peth hawsaf yn y byd i’w golli. Ac mae llawer o bobl mewn llawer o amgylchiadau yn cynllwynio i'w ddwyn oddi arnat
Pan nad ydy plant Duw wedi’u llenwi gyda llawenydd, mae’n gwneud Duw edrych yn wael. Mae rhai Cristnogion byr eu tymer yn dystiolaeth ddrwg. Maen nhw’n edrych fel eu bod wedi’u bedyddio mewn finegr achos dŷn nhw byth yn gwenu. Ac mae hynny’n gwneud i Dduw edrych yn wael.
Pam? Am fod Duw eisiau i ni fod yn dystion gyda’n wynebau.
Mae’r Beibl yn dweud y gellir crynhoi’r bywyd Cristnogol mewn tri gair: daioni, heddwch a llawenydd. Mae Rhufeiniaid pennod 14, adnod 17 yn dweud: “Dim beth wyt ti'n ei fwyta na'i yfed sy'n dangos fod Duw'n teyrnasu yn dy fywyd di. Perthynas iawn gyda Duw sy'n cyfri, a'r heddwch dwfn a'r llawenydd mae'r Ysbryd Glân yn ei roi” (beibl.net).
Ond, y gwirionedd yw, bod modd iti golli dy lawenydd mor sydyn, ac mae yna filoedd o ffyrdd i'w golli. Mae yna filoedd o faglau mewn bywyd yn barod i ddwyn dy lawenydd, hyd yn oed i’r pwynt y gallai rhywun fel Jeremeia ddweud yn Galarnad, pennod, adnod, “Mae pob llawenydd wedi diflannu...” (beibl.net).
Dwn i ddim os mai dyna ble wyt ti heddiw, ond os wyt ti erioed wedi mynd drwy’r cyfnod yna pan wyt ti’n teimlo dy fod wedi colli’r sbarc a dwyt ti ddim mor agos at Dduw ag oeddet ti’n arfer bod ac rwyt yn rhygnu drwy fywyd, mae angen iti wybod ei bod hi’n eithaf hawdd i gael dy lawenydd yn ôl, hefyd.
Felly, sut wyt ti’n cael dy lawenydd yn ôl?
Y cam cyntaf yw cyfaddef dy fod wedi’i golli.
Yn syml, rwyt yn edrych ar dy orffennol ac yn gofyn i dy hun gwestiwn neu ddau. Oes yna gyfnod wedi bod yn dy fywyd lle roeddet ti’n agosach at Dduw, nag wyt ti nawr? Oes yna gyfnod wedi bod yn dy fywyd pan oedd yna fwy o lawenydd yn yr Arglwydd nag sydd yna nawr?
Nawr yw’r amser i wneud y newid. Ond mae’n rhaid iti ddechrau drwy gyfaddef dy fod wedi colli’r hyn oedd gen ti yn y gorffennol. Allet ti ofyn i Dduw, mae e’n disgwyl i’th helpu. Gweddïodd Dafydd hyn yn Salm 51 adnod 12, “Gad i mi brofi'r wefr eto o gael fy achub gen ti, a gwna fi'n awyddus i fod yn ufudd i ti” (beibl.net).

Am y Cynllun hwn
Os wyt ti am gael llawenydd yn dy fywyd, mae’n rhaid i ti ffeindio cydbwysedd yn dy amserlen. Mae Pator rick yn rhannu sut elli di ail-addasu'ch mewnbwn a'ch allbwn fel y gall dy roi a derbyn dy helpu i adennill dy lawenydd, a pheidio ei golli.
More
Y defosiwn hwn © 2014 by Rick Warren. Cedwir pob hawl. defnyddiwyd gyda chaniatâd.