Adennill dy LawenyddSampl
Llawenydd - Ar bob cyfrif
Darllena Philipiaid, pennod 4, adn. 6.
Mae gen ti angen sylfaenol am lawenydd yn dy fywyd. Mae bywyd heb lawenydd yn llethol, yn orlawn, ac yn ormesol. Mae astudiaethau wedi dangos mewn gwirionedd po fwyaf o lawenydd sydd gennym yn ein bywydau, y mwyaf cynhyrchiol ydym. Darllenais erthygl yn "US News and World Report" a ddywedodd fod corfforaethau'n llogi "ymgynghorwyr llawenydd" i adeiladu'r llawenydd ym mywydau pobl fel y gall gweithwyr fod yn fwy cynhyrchiol. Mae'n wir bod gennych chi fwy o egni, mwy o greadigrwydd, a mwy o gynhyrchiant pan fydd gennych chi lawenydd yn eich bywyd.
Yn y llythyr byr at y Philipiaid - pedair pennod yn unig - mae Paul yn defnyddio’r gair “llawenydd” 16 gwaith. Wnaeth Paul ddim sgwennu’r llythyr hwn ar ei wyliau’n y Caribî. Roedd yn y carchar yn Rhufain, yn disgwyl i gael ei ddienyddio. Yng nghyfnodau tywyllaf ei fywyd sgwennodd y llythyr mwyaf positif yn y Beibl.
Yn Philipiaid mae Paul yn rhoi i ni chwech adeiladydd llawenydd i’n helpu i chwalu ein digalondid a’n codi o’n hiselder. Wnawn ni edrych ar dri yma.
Gollwng pob un teimlad o fod yn edifar am bethau’n dy orffennol.
Gollwng gafael.
Mae gollwng gafael ar rywbeth o dy fywyd yn golygu cefnu arno. Mae Paul yn dweud os wyt ti eisiau mwynhau bywyd mae yna rai pethau sydd raid i ti gael gwared arnyn nhw am eu bod yn dy erydu a llethu dy fywyd. Mae’r Beibl yn dweud wrthyt am anghofio popeth rwyt yn edifar amdano, oherwydd, dyna mae Duw’n ei wneud. Mae e’n dewis maddau dy fethiannau, unwaith rwyt ti wedi’u cyfaddef. Pwynt dechreuol llawenydd yw gollwng gafael ar y gorffennol. Mae Philipiaid pennod 3, adnod 13 yn dweud, “Y cwbl dw i'n ei ddweud ydy hyn: Dw i'n anghofio beth sydd tu cefn i mi ac yn canolbwyntio fy holl egni ar beth sydd o mlaen i” (beibl.net).
Hepgor pob pryder am y dyfodol
Os wyt ti’n mynd i fwynhau’r presennol mae’n rhaid iti hepgor pob pryder am y dyfodol. Pryder, heb os nac oni bai yw’r sbwyliwr mwyaf o’r cwbl. Fedri di ddim bod yn llawen a phryderus ar yr un pryd. Gwrthwenwyn Paul yw’r adnod hon: “Peidiwch gadael i ddim byd eich poeni chi. Gweddïwch, a gofyn i Dduw am bopeth sydd arnoch ei angen, a byddwch yn ddiolchgar bob amser” “Peidiwch gadael i ddim byd eich poeni chi. Gweddïwch, a gofyn i Dduw am bopeth sydd arnoch ei angen, a byddwch yn ddiolchgar bob amser” (beibl.net). Fedri di un ai pryderu neu gelli weddïo.
Ildia i bwrpas Duw ar dy gyfer.
Os wyt ti’n drifftio, os nad wyt ti’n gwybod o ble y dois ti neu i ble wyt ti’n mynd, neu’r rheswm rwyt ti yma, wrth gwrs nad wyt ti’n mynd i gael unrhyw lawenydd yn dy fywyd. Dŷn ni gyd angen achos mwy na ni’n hunain i fyw ar ei gyfer. Dyna sy’n dod â llawenydd i ni. Dydy byw ar gyfer dy hun ddim yn dod â llawenydd.
Hyd yn oed pan oedd Paul, yn llythrennol, wedi colli popeth roedd yna un peth na ellid cymryd oddi arno - ei bwrpas mewn bywyd. Mae Paul yn dweud yn Philipiaid pennod 1, adnod 21, “I mi, y Meseia ydy holl ystyr a phwrpas byw, a dw i'n ennill hyd yn oed os bydda i'n cael fy lladd! (beibl.net).
Os wyt ti eisiau bywyd yn llan llawenydd, mae angen i ti uniaethu dy hun â phwrpas Duw yn dy fywyd. Pan fyddi’n dechrau byw i’r pwrpas hwnnw y cefaist ti dy greu, mae bywyd yn gwneud synnwyr, ac yn gwneud llawenydd yn llawr iawn haws dod o hyd iddo.

Am y Cynllun hwn
Os wyt ti am gael llawenydd yn dy fywyd, mae’n rhaid i ti ffeindio cydbwysedd yn dy amserlen. Mae Pator rick yn rhannu sut elli di ail-addasu'ch mewnbwn a'ch allbwn fel y gall dy roi a derbyn dy helpu i adennill dy lawenydd, a pheidio ei golli.
More
Y defosiwn hwn © 2014 by Rick Warren. Cedwir pob hawl. defnyddiwyd gyda chaniatâd.