Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Adennill dy LawenyddSampl

Recovering Your Joy

DYDD 1 O 5

Mwynha dy Fywyd.

Darllena 1 Timotheus pennod 6, adn. 17.

Falle dy fod o dan lot o straen ar hyn o bryd oherwydd yr economi, ond mae Duw dal am i ti fwynhau bywyd.
Fel Cristion, rwyt yn gallu mwynhau bywyd am fod dy gydwybod yn glir. Rwyt yn gallu mwynhau bywyd am dy fod yn ddiogel yng nghariad Duw. Rwyt yn gallu cael hwyl a chwerthin yn y capel. Rwyt yn gallu mwynhau cwmni ffrindiau, am y ffordd maen nhw’n dy drin am dy fod yn ceisio bod fel Iesu, ac mae hynny’n golygu u bod nhw'n dysgu gofalu am fuddiannau pobl eraill.

Yn anffodus mae yna lot o bobl sydd ddim am adael Iesu i mewn i’w bywydau am eu bod yn ofni y bydd e’n stopio nhw rhag cael unrhyw hwyl. Maen nhw’n meddwl bod dod yn Gristion yn golygu bod y parti wedi dod i ben, a bod yn ysbrydol yn golygu bod yn ddiflas.

Mae pobl yn wyllt yn eu chwilio am atebion drwy hwyl, ond mae hynny’n golygu eu bod yn gweithredu o dan gyfraith enillion sy’n mynd yn llai ac yn llai. Maen nhw'n treulio mwy o amser, mwy o arian, a mwy o egni i gael llai a llai o wefr. Maen nhw'n mynd o gwmpas yn gofyn, "Ydyn ni'n cael hwyl eto?"

Y gwir amdani yw bod Duw yn “rhoi popeth sydd ei angen arnon ni, i ni ei fwynhau” (1 Timotheus pennod 6, adn. 17b. beibl.net).

Mae Duw eisiau iti fwynhau bywyd!
Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Recovering Your Joy

Os wyt ti am gael llawenydd yn dy fywyd, mae’n rhaid i ti ffeindio cydbwysedd yn dy amserlen. Mae Pator rick yn rhannu sut elli di ail-addasu'ch mewnbwn a'ch allbwn fel y gall dy roi a derbyn dy helpu i adennill dy lawenydd, a pheidio ei golli.

More

Y defosiwn hwn © 2014 by Rick Warren. Cedwir pob hawl. defnyddiwyd gyda chaniatâd.

Cynlluniau Tebyg