Dewiswyd: Atgoffa dy hun o'r Efengyl bob dyddSampl
Mewn pentref llychlyd yng nghysgod Mynydd Everest tynged bron i 80 y cant o’r genethod fydd cael eu gwerthu i buteindai am mai nhw yw’r is-grŵp isaf o bobl yn y gymdeithas o fewn eu gwlad, pobl y Badi. Mae eu crefydd yn dysgu eu bod mewn bywyd blaenorol wedi pechu gymaint, fel eu bod nhw’n cael eu cosbi drwy gael eu hanfon yn ôl i’r ddaear fel rhan o’u hil bresennol. Dydy pobl ddim hyd yn oed yn eu helpu, am nad ydyn nhw eisiau effaith pechod i’w cosbi nhw hefyd. O ganlyniad genethod y Badi, o’i gymharu ag eraill, yw’r rhai sydd wedi eu masnachu fwyaf ar wyneb daear. Mae’r hil maen nhw wedi’u geni iddo’n golygu eu bod yn cael eu trin yn waeth na fyddai ci - eu defnyddio, eu gwerthu, a’u cam-drin.
Dyma lle wnaeth fy ffrind gyfarfod Ladana, merch ddeg oed prydferth. Roedd ei thad wedi cytuno i’w gwerthu i buteindy Indiaidd. Roedd ei mam ar ben ei thennyn a phlediodd a’i gŵr i beidio gwerthu ei merch fach ond wnaeth e ddim gwrando. Dechreuodd gam-drin ei wraig am nad oedd hi eisiau gwerthu eu merch.
Pan ddaethon i wybod am hyn, fe wnaethon nhw ymateb yn sydyn gyda gweithwyr cymdeithasol a heddlu lleol. Symudwyd Ladana i dy diogel ble mae merched fel hi’n cael eu cadw’n ddiogel, yn gynnes, gyda digon o fwyd, a chyda chariad. Clywodd sut dŷn ni wedi ein mabwysiadu i deulu Duw drwy Iesu. Dyma'r rhan fwyaf pwerus o'r Efengyl i lawer yn yr ardal hon o'r byd.
Wrth rannu’r Efengyl gyda merch arall o lwyth y Badi. “Mae’r efengyl yn dysgu nad yw dy ail enw bellach yn Badi. Nid Jaria Badi yw dy enw bellach. Jaria ‘Crist’ ydy e oherwydd rwyt ti nawr yn ei deulu e, rwyt ti’n ei gastell e nawr.” Adfywiodd ac edrych arno gyda llygaid llawn posibiliadau a gobaith. “All hyn fod yn wir, “ gofynnodd, “Gall am mai dyma’r gwirionedd mwyaf yn yr holl fyd!”Roedd Landana yn falch o ymuno teulu Duw, gan adael cywilydd ei theulu o’i hôl, ei hil, llinach. Daeth Duw yn dad iddi, ac mae hollol i’r gwrthwyneb gyda’i thad ei hun, ac mae ei gariad i’r gwrthwyneb i dad sy’n fodlon gwerthu ei ferch fach. Duw oedd yn fodlon gwerthu ei hun am 30 darn o arian dros ei ferch fach.
Mae’r meddwl modern yn edrych ar Gristnogaeth a rhyfeddu, “Pam gwaed? Sut mae canu am waed Iesu?” Ond mae’r rheiny sydd wedi’u prynu gyda gwaed Crist yn gwybod nawr ein bod yn rhannu uniad sy’n mynd yn ddyfnach na ein hil yma ar y ddaear. Mae Iesu’n ein gwahodd i mewn i deulu newydd a thynged newydd. Dyna pam mae Cristnogion yn hoffi meddwl am waed Crist.
Mae’r Efengyl yn mynd tu hwnt i lanhau ein gorffennol o bechod, mae’n glanhau ein holl achau, llinach, teulu estynedig o'i drueni. Nid wyt yn bennaf rhan o deulu daearol bellach, rwyt wedi ymuno â theulu nefol. Mae gwaed Iesu yn dy wneud yn rhan o deulu Iesu am dragwyddoldeb. Mae gynnon ni hunaniaeth deuluol newydd, arfbais teulu newydd, ystâd newydd, brodyr a chwiorydd newydd, ac enw olaf newydd.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Beth fydde’n digwydd pe bae ti’n deffro pob bore ac atgoffa dy hun o’r Efengyl? Mae’r defosiwn 7 niwrnod hwn yn ceisio dy helpu i wneud hynny’n union! Mae’r Efengyl, nid yn unig yn ein helpu, ond mae’n ein cynnal drwy gydol ein bywyd. Mae’r awdur ac Efengylwr, Matt Brown, wedi llunio a seilio’r cynllun darllen hwn ar y llyfr defosiynol 30 diwrnod, sydd wedi’i sgwennu gan Matt Brown a Ryan Skong.
More