Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Dewiswyd: Atgoffa dy hun o'r Efengyl bob dyddSampl

Chosen: Remind Yourself Of The Gospel Everyday

DYDD 2 O 7

Rhannodd fy ffrind Ryan stori am ddyn o’r enw Mr Bi oedd yn athro ym Mhrifysgol Beijing, oedd yn cael ei adnabod fel “the Harvard of China.” Pan yn y dosbarth fe wnaeth ryw sylw ysgafn am y Blaid Gomiwnyddol i’w fyfyrwyr. Aeth un o’r myfyrwyr at yr heddlu i ddweud beth ddwedodd e. Y bore canlynol rhuthrodd yr heddlu i mewn i swyddfa Mr Bi a mynd ag e i garchar Comiwnyddol anial - heb rybudd a heb achos llys.

Y bore hwnnw roed wedi deffro fel athro oedd yn cadeirio un o’r swyddi mwyaf mawreddog yn y byd. Erbyn nos, roedd mewn cell yn y carchar. Ar y pryd roedd carchardai yn rhai o’r llefydd gwaethaf ar y blaned - llawn o afiechydon, artaith, a marwolaeth. Buan y syrthiodd Mr Bi i iselder ac anobaith. Arweiniodd ei iselder i deimladau o hunanladdiad dros gyfnod o wythnosau. Un prynhawn mewn cwmwl o dristwch, aeth at ffenestr ei gell oedd ar wythfed llawr y carchar. Doedd yna ddim ffenestri yn cael eu gosod ar loriau uwch y carchar. Felly, mater bach fyddai i garcharor pe bai’n penderfynu neidio i’w farwolaeth, doedd hynny ddim i’w weld fel problem.

Cyflymodd calon Mr Bi wrth iddo edrych allan ac ystyried neidio. Ac yna’n sydyn, clywodd lais bach yn dweud, “Paid mynd, paid mynd, paid mynd.” Eisteddodd ynghanol y gell ar y llawr mewn enbydrwydd.

Ar oerni caled y llawr rhuthrodd atgofion i’w feddwl. Roedd athro o dramor oedd yn Gristion wedi rhannu’r Efengyl gydag e. Gweddïodd Mr Bi, “Iesu, os wyt ti’n real, plîs rho imi’r maddeuant a heddwch ddwedodd fy ffrind dy fod wedi’i addo. Ac os wneid di, wna i roi fy mywyd a gwasanaeth i ti.”

Edrychodd i fyny a, “Roedd yr awyr yn lasach nag erioed, roedd yr haul yn llachar dros ben, drwy’r ffenestr agored, a chododd llawenydd yn fy nghalon na phrofais erioed o’r blaen.”

Taflodd yr athro hwn o fri ei holl amheuon i ffwrdd a gweiddi, “Mae gen i ddyfodol disglair yn Iesu Grist!” Clywodd y gwarchodwyr e a dweud yn gas iawn iddo fod yn dawel. Ond doedd e ddim gallu cuddio ei lawenydd. Daliodd ati i’w weiddi nes iddyn nhw ddod i’w gell a’i guro.

Mae person mewn carchar ac wedi’i ryddhau drwy gredu’n Efengyl Iesu yn fwy rhydd nag unrhyw berson tu allan i garchar sydd heb yr Efengyl.

Rhyddhawyd Mr Bi maes o law ac agorodd nifer o gartrefi i blant amddifad tu mewn i Tsieina, gofalodd am y tlawd ac arwain llawer at Grist. Roedd ganddo ddyfodol disglair yng Nghrist. Hyd yn oed heddiw mae ei lawenydd yn heintus pan fyddwch yn ei gwrdd. Mae e siŵr o ddweud fod ei lawenydd heddiw run fath â’r llawenydd gafodd yn y carchar.

Mae pawb, o bryd i’w gilydd, yn teimlo eu bod mewn carchar o’i greu gan ddyn nhw eu hunain - wedi’u dal gan eu meddyliau, arferion, gweithredoedd, a gorffennol sy’n swnian sy’n dal gafael ynddyn nhw.

Mae’r Efengyl yn ein dysgu ni mai’r carchar gwaethaf posib yw’r un dŷn ni’n ei wneud ein hunain. Y cloeon yng nghelloedd y carchar hwn yw ein hansicrwydd, gyda’r ymwybyddiaeth ddofn fod rhywbeth o’i le o’n mewn, fod rhywbeth wedi malu’n rhacs. Dŷn ni’n cario hyn gyda ni fel cadwyni o gwmpas ein gyddfau. Mae e’n gyflwr dynol.

Dim ond os bydd rhywbeth syfrdanol yn digwydd y bydd hyn yn newid.

Yr Efengyl yw’r mesur mwyaf syfrdanol. Mae’n groes waedlyd. Marwolaeth Duw ei hun yw e, drosom ni. Chwalu marwolaeth yn llwyr yw e, mewn atgyfodiad gogoneddus i ddangos pŵer Duw dragwyddoldeb cyfan.

Mae Gair Duw’n ein hatgoffa bod rhaid i ni dalu sylw agos i’r hyn dŷn ni wedi’i glywed, yn arbennig wrth ystyried yr Efengyl (Hebreaid 2:1). Y bregeth bwysicaf fyddi di’n ei phregethu yw’r un fydd yn atgoffa dy galon dy hun bob dydd, “Mae gen i ddyfodol disglair yn Iesu.”

Ysgrythur

Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

Chosen: Remind Yourself Of The Gospel Everyday

Beth fydde’n digwydd pe bae ti’n deffro pob bore ac atgoffa dy hun o’r Efengyl? Mae’r defosiwn 7 niwrnod hwn yn ceisio dy helpu i wneud hynny’n union! Mae’r Efengyl, nid yn unig yn ein helpu, ond mae’n ein cynnal drwy gydol ein bywyd. Mae’r awdur ac Efengylwr, Matt Brown, wedi llunio a seilio’r cynllun darllen hwn ar y llyfr defosiynol 30 diwrnod, sydd wedi’i sgwennu gan Matt Brown a Ryan Skong.

More

Hoffem ddiolch i: Think Eternity am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i https://www.thinke.org