Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Dewiswyd: Atgoffa dy hun o'r Efengyl bob dyddSampl

Chosen: Remind Yourself Of The Gospel Everyday

DYDD 4 O 7

Un tro, aeth eglwys ar daith genhadol i bentref anial yn Rwsia i adeiladu eglwys. Roedden nhw’n adeiladu’r eglwys o gerrig adfail carchar. Dyna olygfa bwerus!

Rhoddwyd sylw manwl i gadw’r cerrig yn ofalus. Wrth drin un o’r cerrig mawr, darganfuwyd carreg â thwll wedi’i naddu ynddi, ac yn y twll roedd yna dun ac ynddo ddarn o bapur gydag ysgrifen yn dweud, “Rydym yn grŵp o Gristnogion sy’n cael eu gorfodi i gymryd y cerrig o’n heglwys i adeiladu carchar, ble byddwn yn aros nes byddwn wedi marw. Ein gweddi yw y bydd y cerrig hyn, rhyw ddydd, yn cael eu defnyddio eto i adeiladu eglwys.”

Pan atgyfododd Crist, dewisodd ddangos ei hun i Mair Magdalen gyntaf. Yn y dyddiau hynny, byddai tystiolaeth o'r math yma gan ddynes ddim yn dal dŵr mewn llys barn. Ond dewisodd Iesu ddynes o grŵp lleiafrifol fel ei dyst cyntaf, gan ddangos y byd y gall dangos i'r byd ddynes o grŵp lleiafrifol, sydd â'r newyddion mwyaf yn y byd, wyrdroi'r ymerodraeth fwyaf dylanwadol a blaenllaw yn hanes dynolryw. A nawr, mae teyrnas Dduw yn tyrfu wrth y miloedd, bob dydd, gyda dynion a merched yn rhoi eu bywydau i Grist, tra bod yr Ymerodraeth Rufeinig ar chwâl.

Mae Stori’`r Efengyl yn stori o bobl gyffredin yn tystio i, a phrofi, grym anhygoel yr atgyfodiad. Pryd bynnag y byddi di’n teimlo’n dlawd neu'n ddi-bŵer, mae’r Crist atgyfodedig yn sefyll i ddatgelu ei bŵer drwot ti. Mae pob un o'r meysydd o'th fywyd sy'n teimlo'n ddibwys yr union le ble mae Crist yn edrych i wneud gwyrth atgyfodiad arall.

Cyflawnodd Crist ei wyrthiau mwyaf ymhlith y bobl fwyaf cyffredin, yn y trefi mwyaf di-nod, ar yr amseroedd mwyaf cyffredin. Doedd y mwyafrif o wyrthiau ddim wedi’u cyflawni yn y deml, ond yn hytrach ar gyrion pentrefi bach. Os wyt ti mewn lle digon di-nod, mae’n bosib dy fod yn y lle mwyaf perffaith i alluogi i bŵer atgyfodiad Duw i dorri allan.

Pan fyddi’n dechrau rhannu’r Efengyl gyda’th galon dy hun bob dydd, byddi’n dechrau gweld yr atgyfodiad yn y dyddiau mwyaf arferol a di-nod, lleoedd, a phobl.

Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

Chosen: Remind Yourself Of The Gospel Everyday

Beth fydde’n digwydd pe bae ti’n deffro pob bore ac atgoffa dy hun o’r Efengyl? Mae’r defosiwn 7 niwrnod hwn yn ceisio dy helpu i wneud hynny’n union! Mae’r Efengyl, nid yn unig yn ein helpu, ond mae’n ein cynnal drwy gydol ein bywyd. Mae’r awdur ac Efengylwr, Matt Brown, wedi llunio a seilio’r cynllun darllen hwn ar y llyfr defosiynol 30 diwrnod, sydd wedi’i sgwennu gan Matt Brown a Ryan Skong.

More

Hoffem ddiolch i: Think Eternity am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i https://www.thinke.org