Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Dewiswyd: Atgoffa dy hun o'r Efengyl bob dyddSampl

Chosen: Remind Yourself Of The Gospel Everyday

DYDD 5 O 7

Bu bron imi ollwng y llyfr pan ddarllenais gyfieithiad David Bentley Hart o’r gair “bendithio” yn y Beibl. Mae’r ysgolhaig enwog yn trafod sut mae “bendithio” wedi colli’i ystyr yn ein diwylliant. Mae’n cael ei ddefnyddio, fwy neu lai yn lle, fel “lwcus” neu “ffodus”. Mae Hart yn dadlau y byddai ein hystyr ni’n agosach i’n gair ni, dedwydd neu gyflwr o hapusrwydd pleserus.

Dyma mae Duw wedi’i wneud i ni yn yr Efengyl: Mae wedi rhoi pob bendith dragwyddol y gellir ei dychmygu i ni i'r graddau ein bod yn llawn gwynfyd!

Ein dewis dyddiol, ein brwydr ddyddiol, ein treial dyddiol yw, a ddylid cofio, sylweddoli, a byw yn y realiti hwn ai peidio.

A dydy e ddim wedi’i sylfaenu ar ein hamgylchiadau. Mewn unrhyw ffordd. Dysgodd gŵr ifanc o’r enw Meisha hyn imi mewn ffordd na fyddaf i fyth yn ei anghofio:

Roedd Meisha yn ffoadur mewn gwlad oedd wedi ei rhwygo gan ryfel. Dinistriwyd ei bentref a phopeth a wyddai gan fyddin ormesol, a gorfodwyd ef i fod yn borthor, yn cario cyflenwadau milwr trwy jyngl glawog wrth syllu i lawr baril gwn - yn debyg iawn yn nydd Iesu pan orfododd milwr Rhufeinig berson i gario ei offer am filltir.

Ac yna, un diwrnod, gorfodwyd Meisha, gyda gŵn, wedi’i bwyntio ato, i ddatgymalu ffrwydryn tir. Ffrwydrodd y ffrwydryn tir, ac ar amrantiad collodd Meisha ei ddwylo a’i lygaid. Cafodd ei adael yna, am eu bod yn meddwl ei fod wedi marw, ond roedd yn fyw.

Aeth sawl blwyddyn heibio, a rhannodd rhywun hanes y Gwaredwr ddioddefodd gydag e. Uniaethodd gyda Duw oedd yn adnabod ei boen. Trawsnewidiwyd ei fywyd yn ogoneddus.

Mae Meisha mor gyffrous am yr Efengyl fel bod ganddo bobl yn ei arwain o wersyll ffoaduriaid i wersyll ffoaduriaid er mwyn iddo allu rhannu’r Efengyl gyda’r rhai sydd heb glywed am Iesu.

Mae llawenydd Meisha’s yn heintus. Mae gymaint mwy hapus na phobl sy’n gallu gweld, sydd gyda’u dwy law, ac yn byw mewn tlodi mewn gwersyll ffoaduriaid. Mae ei lawenydd yn deillio o’i ddiolchgarwch am y groes. Mae Meisha yn gwybod y bydd, cyn bo hir, gyda Christ am byth.

Mae Meisha yn darlunio hyn drwy rannu’r Efengyl ynghanol y gwersyll ffoaduriaid. Mae’n ymgorffori eiriau'r apostol Paul, a ddwedodd, “Dydy'n trafferthion presennol ni'n ddim byd o bwys, a fyddan nhw ddim yn para'n hir. Ond maen nhw'n arwain i fendithion tragwyddol yn y pen draw - ysblander sydd y tu hwnt i bob mesur!” (2 Corinthiaid 4:17).

Diwrnod 4Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

Chosen: Remind Yourself Of The Gospel Everyday

Beth fydde’n digwydd pe bae ti’n deffro pob bore ac atgoffa dy hun o’r Efengyl? Mae’r defosiwn 7 niwrnod hwn yn ceisio dy helpu i wneud hynny’n union! Mae’r Efengyl, nid yn unig yn ein helpu, ond mae’n ein cynnal drwy gydol ein bywyd. Mae’r awdur ac Efengylwr, Matt Brown, wedi llunio a seilio’r cynllun darllen hwn ar y llyfr defosiynol 30 diwrnod, sydd wedi’i sgwennu gan Matt Brown a Ryan Skong.

More

Hoffem ddiolch i: Think Eternity am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i https://www.thinke.org