Dewiswyd: Atgoffa dy hun o'r Efengyl bob dyddSampl
Un o’r prif ffyrdd dŷn ni’n ei ddefnyddio i hyfforddi ein heneidiau i garu Duw yw pregethu’r Efengyl i’n heneidiau. Po fwyaf mae dy enaid yn gweld y groes, y mwyaf y bydd diolchgarwch ac addoliad yn cynyddu o’th fewn. Mae hynny’n rhan o gyfansoddiad dynoliaeth ar gyfer aberthu. Anodd iawn fyddai dychmygu aberth mwy nag un Iesu.
Wrth deithio’r byd, mae un dywediad sy’n atseinio bron yn gyffredinol - ar draws pob math o ddiwylliannau - mae’r llinell gyfarwydd o Salm 103:1, “Fy enaid, bendithia'r Arglwydd!”
Torra’r dywediad hwn i lawr. Mae Dafydd yn hyfforddi ei enaid drwy bregethu iddo. Dwedodd Dafydd wrth ei enaid sut i deimlo ac ymateb i’r Ysgrythur. F’enaid, bendithia Dduw, os wyt ti eisiau neu beidio. Doedd e ddim yn canu llinell hyfryd yn unig, roedd e’n siarad gyda’i hun, yn herio ei enaid i gamu ‘mlaen. Mae’r Gair yn disgrifio’r arferiad hwn gan ddweud, “Ond cafodd Dafydd nerth gan yr Arglwydd ei Dduw” (1 Samuel 30:6 beibl.net)
Mae’n gelfyddyd goll o Gristnogaeth, yn ddisgyblaeth hyfryd. Yn lle dilyn dy fympwy, diwylliant anwadal, y bobl o’th gwmpas, neu hyd yn oed yn fwy trasig, o’r cyfryngau cymdeithasol, sylla ar dy enaid a dweud wrtho am edrych ar y groes, ar yr atgyfodiad. Gorchmynna i’th enaid yfed yng ngharedigrwydd Crist, gariodd ar ei ysgwyddau briwedig, bwysau dy bechod.
Weithiau mae’n rhaid iti orfodi dy enaid i edrych. Gwaeddodd Ioan Fedyddiwr i’r nefoedd, “Edrychwch! Dacw Oen Duw, yr un sy'n cymryd pechod y byd i ffwrdd” (Ioan 1:29). Dyma orchymyn dyddiol. Rhaid i ni edrych! Edrych ar y groes ble ddioddefodd Iesu am bechod wnaeth e mo’i chyflawni, fel dy fod di’n gallu llawenhau mewn cyfiawnder na wnes di ei haeddu erioed.
Mae’r Efengyl yn dod yn fwyd dyddiol i’n heneidiau, gan gryfhau ein calonnau. Mae’n llawer anoddach i gwyno, teimlo’n sori droson ni’n hunain, neu fod yn llawn pryder pan mae ein heneidiau’n gweld y gwaed yn llifo lawr wyneb Crist a ddarniwyd gan y goron bigog. Mae diolchgarwch yn naturiol yn cronni yn ein calonnau pan fyddwn yn gwneud hyn trwy gydol y dydd.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Beth fydde’n digwydd pe bae ti’n deffro pob bore ac atgoffa dy hun o’r Efengyl? Mae’r defosiwn 7 niwrnod hwn yn ceisio dy helpu i wneud hynny’n union! Mae’r Efengyl, nid yn unig yn ein helpu, ond mae’n ein cynnal drwy gydol ein bywyd. Mae’r awdur ac Efengylwr, Matt Brown, wedi llunio a seilio’r cynllun darllen hwn ar y llyfr defosiynol 30 diwrnod, sydd wedi’i sgwennu gan Matt Brown a Ryan Skong.
More