Oswald Chambers: Joy - Strength In The LordSampl
Pan fydd dynion yn crwydro o'r Beibl, Duw yn syml yw'r enw a roddir ar y tueddiadau cyffredinol sy'n hybu diddordebau dynion - bod Duw ac Iesu Grist a'r Ysbryd Glân i fod i'n bendithio ni, er mwyn hyrwyddo ein diddordebau. Pan drown at y Testament Newydd dŷn ni'n cael syniadaeth wahanol, ein bod, trwy adfywio, yn cael ein dwyn i'r fath harmoni ac undeb â Duw fel ein bod yn sylweddoli gyda llawenydd mawr ein bod i fod i wasanaethu Ei fuddiannau.
Os cadwn yn y golau gyda Duw, mae ein bywyd fel plentyn, yn syml a llawen drwyddi draw. Mae'n ddigon i blentyn wybod fod ei dad eisiau iddo wneud rhai pethau penodol ac mae'n dysgu tynnu o gryfder cryfach na'i hun.
Cwestiynau i fyfyrio arnyn nhw: Ydw i'n defnyddio Duw i hybu fy niddordebau i, neu ydw i'n gwasanaethu Duw i hybu ei rai e? Ydw i'n defnyddio'r Beibl i brofi mod i'n iawn neu i ffeindio ble dw i'n mynd o'i le fel fy mod yn cael fy nghywiro?
Dyfyniadau wedi'u cymryd o The Philosophy of Sin, © Discovery House Publishers

Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Darganfydda ddoethineb Oswald Chambers, awdur My Utmost for the Highest, yn y drysorfa hon o fewnwelediadau am lawenydd. Mae pob darlleniad yn cynnwys dyfyniadau gan Chambers gyda chwestiynau ar gyfer dy fyfyrion dy hun. Wrth iddo dy ysbrydoli a herio gyda'i ddoethineb Beiblaidd syml ac uniongyrchol, byddi'n ffeindio dy hun eisiau treulio mwy o amser yn siarad gyda Duw.
More
We would like to thank Discovery House Publishers for providing this plan. For more information, please visit: www.utmost.org