Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Oswald Chambers: Joy - Strength In The LordSampl

Oswald Chambers: Joy - Strength In The Lord

DYDD 2 O 30

Mae bendithion Duw'n syrthio, fel y glaw, run fath ar y da a'r drwg â'i gilydd. Mae'r bendithion mawr o iechyd, athrylith, ffyniant, yn dod i gyd o'i ras ddiderfyn, ac nid o gyflwr cymeriad y rhai sy'n derbyn. Er enghraifft, petai iechyd yn arwydd fod dyn yn iawn gyda Duw, dylem golli pob syniadaeth o'r hyn yw cymeriad da, gan fod llawer o ddynion drwg yn mwynhau iechyd da.
Mae yna wahaniaeth rhwng amgylchedd ac amgylchiadau. Mae gan pob dyn ei amgylchedd ei hun, yr elfen hwnnw'n ei amgylchiadau yw ei anian. Mae pob un ohonom yn creu ein hamgylchedd ein hunain, gan fod ein personoliaeth yn ei wneud drosom. Mae hapusrwydd yn golygu ein bod ond yn dewis yr amgylchiadau hyn fydd yn ein cadw'n hapus. Dyma yw sylfaen Cristnogaeth ffals. Nid yw’r Beibl yn unman yn siarad am Gristion “hapus”; mae'n siarad yn helaeth am lawenydd. Mae hapusrwydd yn ddibynnol ar bethau'n digwydd. Dydy llawenydd ddim yn ddibynnol ar amgylchiadau allanol.
Cwestiynau i fyfyrio arnyn nhw: Sut mae adfyd yn effeithio ar fy llawenydd? Ydw i'n mesur cariad Duw tuag ataf ar sail ei fendithion?
Dyfyniadau wedi'u cymryd o God’s Workmanship a The Shadow of an Agony, © Discovery House Publishers

Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

Oswald Chambers: Joy - Strength In The Lord

Darganfydda ddoethineb Oswald Chambers, awdur My Utmost for the Highest, yn y drysorfa hon o fewnwelediadau am lawenydd. Mae pob darlleniad yn cynnwys dyfyniadau gan Chambers gyda chwestiynau ar gyfer dy fyfyrion dy hun. Wrth iddo dy ysbrydoli a herio gyda'i ddoethineb Beiblaidd syml ac uniongyrchol, byddi'n ffeindio dy hun eisiau treulio mwy o amser yn siarad gyda Duw.

More

We would like to thank Discovery House Publishers for providing this plan. For more information, please visit: www.utmost.org