Ac efe á gymerodd daith i Gaersalem, gàn ddysgu wrth fyned drwy ddinasoedd a phentrefi; a gofynodd un iddo, Feistr, ai ychydig yw y rhai fyddant gadwedig? Yntau á atebodd, Ymdrechwch fyned i fewn drwy y porth cyfing; canys llawer, yr wyf yn gwirio i chwi, á ddeisyfant gael myned i fewn, ond ni lwyddant. Os unwaith y cyfyd gŵr y ty a chloi y drws, ac i chwithau yn sefyll oddallan ac yn curo, ddywedyd, Feistr, Feistr, agor i ni; efe á etyb, Nis gwn o ba le yr ydych. Yna y dywedwch chwithau, Ni á fwytasom ac á yfasom gyda thi, a thi á ddysgaist yn ein heolydd ni. Ond efe á etyb, Yr wyf yn dywedyd i chwi, nis gwn o ba le yr ydych; symudwch oddyma, chwi holl weithredwyr annghyfiawnder. Yna y bydd wylofain a rhincian dannedd, pan weloch Abraham, ac Isaac, a Iacob, a’r holl broffwydi, yn nheyrnas Duw, a chwithau gwedi eich cau allan; na, daw rhai o’r dwyrain, o’r gorllewin, o’r gogledd, ac o’r deäu, ac á osodant eu hunain wrth y bwrdd yn nheyrnas Duw. Ac wele, olaf ydyw y rhai à fyddant flaenaf, a blaenaf ydyw y rhai à fyddant olaf.