Ar y Seibiaeth, fel yr oedd efe yn dysgu yn y gynnullfa, yr oedd yno wraig y buasai ynddi ysbryd gwendid ddeunaw mlynedd, drwy yr hwn y crymasid hi gymaint, fel nas gallai hi mewn modd yn y byd ymuniawni. Iesu gwedi ei chanfod, a’i galwodd hi ato, a gwedi dodi ei ddwylaw arni, á ddywedodd, Wraig, rhyddawyd di oddwrth dy wendid. Yn ebrwydd hi á unionwyd, ac á ogoneddodd Dduw. Ond llywydd y gynnullfa, gwedi ei gynhyrfu gàn ddigllonedd, am i Iesu iachâu àr y Seibiaeth, á ddywedodd wrth y bobl, Y mae chwe diwrnod i weithio; àr y rhai hyn, gàn hyny, deuwch ac iachâer chwi, a nid àr ddydd y Seibiaeth. I’r hyn yr atebodd yr Arglwydd, Ragrithwyr! pwy yn eich mysg, nad yw àr y Seibiaeth, yn gollwng ei ŷch neu ei asyn o’r preseb, ac yn ei arwain i’r dwfr? Ac oni ddylai hon, a hi yn ferch i Abraham, yr hon á rwymodd Satan, wele! y deunaw mlynedd hyn, gael ei rhyddâu o’r rhwym hwn àr ddydd y Seibiaeth? Fel yr oedd efe yn dywedyd y pethau hyn, ei holl wrthwynebwyr ef á gywilyddiasant; ond yr holl dyrfa á lawenychai am yr holl weithredoedd gogoneddus à gyflawnid ganddo.