Yn y cyfamser, tra yr oedd y bobl yn fyrddoedd yn ymdỳru o’i amgylch, nes oeddynt yn sangu y naill àr y llall, efe á ddywedodd, gàn gyfarch ei ddysgyblion, Yn bènaf dim, ymogelwch rhag surdoes y Phariseaid, yr hwn yw rhagrith. Canys nid oes dim cuddiedig, na ddadguddir; dim dirgel, nas gwybyddir. Yr hyn á ddywedasoch yn y tywyllwch, à adroddir yn y goleu; a’r hyn à ddywedasoch yn y glust yn yr ystafell, á gyhoeddir oddar bènau y tai. Ond yr wyf yn erchi i chwi, fy nghyfeillion, nac ofnwch y rhai à laddant y corff, a gwedi hyny heb allu gwneuthur dim mwy; ond mi á ddangosaf i chwi pwy á ddylech ofni; ofnwch yr hwn, wedi iddo ladd, sydd ag awdurdod ganddo i fwrw i uffern. Yr wyf yn dywedyd eto wrthych, Ofnwch hwnw. Oni werthir pump o adar y to èr dwy ffyrling? Eto nid oes un o honynt yn cael ei annghofio gàn Dduw: ïe, y mae hyd yn nod gwallt eich pèn chwi yn gyfrifedig oll; nac ofnwch, gàn hyny, yr ydych chwi yn lawer gwerthfawrocach nag adar y to. Hefyd, yr wyf yn dywedyd i chwi, pwybynag á’m haddefo i gèr bron dynion, Mab y Dyn á’i haddef yntau gèr bron angylion Duw; ond pwybynag á’m gwado i gèr bron dynion, á wedir gèr bron angylion Duw. A phwybynag á ogano Fab y Dyn, á all gael maddeuant; ond i’r hwn à gablo yn erbyn yr Ysbryd Glan, nid oes maddeuant. A phan ych dygir gèr bron cynnullfëydd, ac ynadon, a phènaethiaid, na fyddwch bryderus, pa fodd neu pa beth á ddywedoch; canys yr Ysbryd Glan á ddysg i chwi yn y meidyn hwnw beth á ddylech ddywedyd.