Hefyd, efe á ddywedodd wrthynt, Pe bai gàn un o honoch gyfaill, a myned ato hanner nos, a dywedyd, Gyfaill, dyro i mi fenthyg tair torth; canys cyfaill i mi á ddaeth o’i ffordd i’m gweled, a nid oes gènyf ddim iddei osod gèr ei fron ef; ac iddo yntau oddifewn ateb, Na flina fi; y mae y drws yn awr wedi ei gloi; yr wyf fi a’r plant yn y gwely; ni allaf godi i roddi i ti: yr wyf yn dywedyd i chwi, èr na chyfyd efe a rhoddi iddo, am ei fod yn gyfaill iddo; eto o herwydd ei daerineb, efe á gyfyd ac á rydd iddo gynnifer ag sydd arno eu heisieu. Felly yr wyf finnau yn dywedyd i chwi, Gofynwch, a rhoddir i chwi; ceisiwch, a chwi á gewch; curwch, a fe agorir i chwi; canys pwybynag sydd yn gofyn, sydd yn derbyn; pwybynag sydd yn ceisio, sydd yn cael; ac i bob un sydd yn curo, yr agorir y drws. Pa dad yn eich plith, á roddai iddei fab gàreg, pan y gofyna fara; neu pan ofyna bysgodyn, á roddai, yn lle pysgodyn, sarff iddo; neu pan ofyna ŵy, á roddai ysgorpion iddo? Os chychwi, gàn hyny, èr cynddrwg ydych, á fedrwch roddi pethau da iddeich plant; pa faint mwy y rhydd eich Tad nefol yr Ysbryd Glan, i’r rhai à ofynant ganddo.