Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Adnodau Beiblaidd Poblogaidd o Luwc 10

Yna rhyw gyfreithiwr á gododd, ac á ddywedodd, gàn ei brofi ef, Rabbi, pa beth á wnaf i gaffael bywyd tragwyddol? Iesu á ddywedodd wrtho, Pa beth sydd ysgrifenedig yn y gyfraith? Pa beth wyt ti yn ei ddarllen yno? Yntau á atebodd, “Ceri yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac ä’th holl nerth, ac â’th holl feddwl; a’th gymydog fel ti dy hun.” Iesu á adatebodd, Ti á atebaist yn iawn. Gwna hyn, a byw fyddi. Yntau yn chwennychu ymddangos yn ddifai, á ddywedodd wrth Iesu, Pwy yw fy nghymydog? Iesu á ddywedodd mewn atebiad, Gwr o Gaersalem, wrth ymdaith i Iericho, á syrthiodd yn mysg ysbeilwyr, y rhai gwedi ei ddyosg ef a’i archolli, á aethant ymaith, gàn ei adael ef yn hanner marw. Rhyw offeiriad wrth fyned yn ddamweiniol y ffordd hòno, a’i weled, á aeth ymaith o’r tu arall heibio. Yr un ffunud Lefiad, àr y ffordd, pan ddaeth yn agos i’r fàn, a’i weled ef, á aeth heibio o’r tu arall. Eithr rhyw Samariad, wrth ymdaith, á ddaeth lle yr oedd efe, a phan ei gwelodd, á dosturiodd, ac á aeth i fyny ato, a gwedi tywallt olew a gwin iddei archollion, efe á’u rhwymodd i fyny. Yna efe á’i gosododd ef àr ei anifail ei hun, á’i dyg i westdy, ac á ofalodd am dano. Tranoeth, wrth fyned ymaith, efe á dỳnodd allan ddwy geiniog, a gwedi eu rhoddi i’r gwesteiwr, á ddywedodd, Gofala am y gwr hwn, a pha beth bynag á dreuliech yn chwaneg, pan ddychwelyf, mi á’i talaf i ti. Yn awr pa un o’r tri hyn yr wyt ti yn tybied ei fod yn gymydog i’r hwn á syrthiasai yn mhlith yr ysbeilwyr? Y cyfreithiwr á atebodd, Yr hwn á wnaeth drugaredd ag ef. Yna y dywedodd Iesu, Dos dithau, a gwna yr un modd.