Gwedi hyny y pènododd yr Arglwydd seithdeg ereill hefyd, ac á’u hanfonodd hwynt bob yn ddau i bob dinas a lle yr oedd efe yn bwriadu myned. Ac efe á ddywedodd wrthynt, Y cynauaf sy gnydfawr, ond y medelwyr ynt ychydig; gweddiwch, gàn hyny, àr Arglwydd y cynauaf am ddanfon llafurwyr iddei fedi. Ewch gàn hyny; wele yr wyf fi yn eich danfon allan fel ŵyn yn mysg bleiddiaid. Na ddygwch god, nac ysgrepan, nac esgidiau; a na chyferchwch well i neb àr y ffordd. Ac i ba dŷ bynag yr eloch i fewn, yn gyntaf dywedwch, Tangnefedd i’r tŷ hwn. Ac os bydd yno fab tangnefedd, eich tangnefedd á orphwys arno; os yn amgen, efe á adchwel arnoch eich hunain. Ond aroswch yn yr un tŷ, gán fwyta ac yfed, y cyfryw bethau ag á gaffoch ganddynt; canys teilwng yw i’r gweithiwr ei gyflog: nac ewch o dŷ i dŷ. A pha ddinas bynag yr eloch iddi, os derbyniant chwi, bwytewch y cyfryw bethau ag á rodder gèr eich brònau; iachewch y cleifion, a dywedwch wrthynt, Y mae Teyrnasiad Duw yn dyfod arnoch. Eithr pa ddinas bynag yr eloch iddi, a hwy heb eich derbyn, ewch allan i’r heolydd, a dywedwch, Hyd yn nod tom eich heolydd, yr hwn sydd yn glynu wrthym, yr ydym yn ei sychu ymaith yn eich erbyn; èr hyny gwybyddwch bod Teyrnasiad Duw yn dyfod arnoch. Yr wyf yn sicrâu i chwi, y bydd cyflwr Sodoma yn fwy goddefadwy y dydd hwnw, na chyflwr y ddinas hòno.
Darllen Luwc 10
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Luwc 10:1-12
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos