A’r seithdeg á ddychwelasant gyda llawenydd, gàn ddywedyd, Feistr, hyd yn nod y cythreuliaid á ddarostyngir i ni, drwy dy enw di. Efe á ddywedodd wrthynt, Mi á welais Satan yn syrthio fel mellten o’r nef. Wele! yr wyf fi yn eich galluogi i sathru àr seirff ac ysgorpionau, a holl gryfder y gelyn; a ni chaiff dim eich niweidio. Er hyny, na lawenewch yn hyn, bod yr ysbrydion yn ddarostyngedig i chwi; ond llawenewch am fod eich enwau gwedi eu cofrestru yn y nefoedd. Y pryd hwnw Iesu á lawenychodd yn yr ysbryd, ac á ddywedodd, Yr wyf yn dy foliannu di, O Dad, Arglwydd nef a daiar, am i ti, gwedi cuddio y pethau hyn oddwrth ddoethion a’r dysgedigion, eu dadguddio hwynt i fabanod. Ië, O Dad, oblegid felly y rhyngodd bodd i ti. Pob peth á roddwyd i mi gàn fy Nhad; a ni wyr neb pwy yw y Mab, ond y Tad; na phwy yw y Tad, ond y Mab, a’r sawl y mỳno y Mab ei ddadguddio iddo. Yna gwedi troi o’r neilldu, efe á ddywedodd wrth ei ddysgyblion, Gwyn eu byd y llygaid à welant y pethau à welwch chwi. Canys yr wyf yn sicrâu i chwi, ewyllysio o lawer o broffwydi a breninoedd weled y pethau à welwch chwi; ond ni welsant; a chlywed y pethau à glyẅwch chwi; ond ni chlywsant.
Darllen Luwc 10
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Luwc 10:17-24
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos