Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luwc 11

11
DOSBARTH VIII.
Nodwedd y Phariseaid.
1-4Dygwyddodd bod Iesu yn gweddio mewn rhyw fàn; a phan beidiodd, dywedodd un o’i ddysgyblion wrtho, Feistr, dysg i ni weddio, megys y dysgodd Ioan hefyd iddei ddysgyblion. Yntau á ddywedodd wrthynt, Pan weddioch, dywedwch, Dad, santeiddier dy enw; deled dy Deyrnasiad; dyro i ni bob dydd ein bara peunyddiol; a maddau i ni ein pechodau, canys yr ydym ninnau yn maddau i bawb à droseddant i’n herbyn; a nac arwain ni i brofedigaeth.
5-13Hefyd, efe á ddywedodd wrthynt, Pe bai gàn un o honoch gyfaill, a myned ato hanner nos, a dywedyd, Gyfaill, dyro i mi fenthyg tair torth; canys cyfaill i mi á ddaeth o’i ffordd i’m gweled, a nid oes gènyf ddim iddei osod gèr ei fron ef; ac iddo yntau oddifewn ateb, Na flina fi; y mae y drws yn awr wedi ei gloi; yr wyf fi a’r plant yn y gwely; ni allaf godi i roddi i ti: yr wyf yn dywedyd i chwi, èr na chyfyd efe a rhoddi iddo, am ei fod yn gyfaill iddo; eto o herwydd ei daerineb, efe á gyfyd ac á rydd iddo gynnifer ag sydd arno eu heisieu. Felly yr wyf finnau yn dywedyd i chwi, Gofynwch, a rhoddir i chwi; ceisiwch, a chwi á gewch; curwch, a fe agorir i chwi; canys pwybynag sydd yn gofyn, sydd yn derbyn; pwybynag sydd yn ceisio, sydd yn cael; ac i bob un sydd yn curo, yr agorir y drws. Pa dad yn eich plith, á roddai iddei fab gàreg, pan y gofyna fara; neu pan ofyna bysgodyn, á roddai, yn lle pysgodyn, sarff iddo; neu pan ofyna ŵy, á roddai ysgorpion iddo? Os chychwi, gàn hyny, èr cynddrwg ydych, á fedrwch roddi pethau da iddeich plant; pa faint mwy y rhydd eich Tad nefol yr Ysbryd Glan, i’r rhai à ofynant ganddo.
14-23Drachefn, yr oedd efe yn bwrw allan gythraul, yr hwn á berai fudandod; a gwedi i’r cythraul fyned allan, llefarodd y mudan, a’r bobl á ryfeddasant. Ond rhai á ddywedasant, Drwy Beelzebwb, tywysog y cythreuliaid, y mae efe yn bwrw allan gythreuliaid. Ereill, èr ei brofi ef, á geisiasant ganddo arwydd o’r nef. Yntau, yn gwybod eu meddyliau hwynt, á ddywedodd wrthynt, Drwy derfysgoedd cartrefawl, gellir annghyfanneddu unrhyw deyrnas; y naill deulu yn syrthio àr ol y llall. Yn awr, od oes terfysgoedd cartrefawl yn nheyrnas Satan; pa fodd y gall y deyrnas hòno sefyll? canys yr ydych yn dywedyd, mai drwy Beelzebwb yr wyf fi yn bwrw allan gythreuliaid. Yn mhellach, os drwy Beelzebwb yr wyf fi yn bwrw allan gythreuliaid, drwy bwy y mae eich meibion chwi yn eu bwrw hwynt allan? Am hyny y cânt hwy fod yn farnwyr arnoch chwi. Ond os wyf fi, drwy fys Duw, yn bwrw allan gythreuliaid, y mae Teyrnasiad Duw gwedi eich goddiweddyd chwi. Pan fyddo y cryf arfog yn gwarchawd ei lys; y mae ei eiddo yn ddiogel. Ond, os yr hwn sy gryfach, á ymesyd arno a’i orchfygu, efe á’i dyosg o’i holl arfogaeth, yn yr hwn yr oedd yn ymddiried, ac á ràna ei anrhaith ef. Yr hwn nid yw gyd â mi, yn fy erbyn y mae; a’r hwn nid yw yn casglu gyd â mi, sydd yn gwasgaru.
24-26Pan el yr ysbryd aflan allan o ddyn, efe á grwydra àr hyd anialoedd crasboeth, i chwilio am orphwysfa. Ond pan nad yw yn cael yr un, efe á ddywed, Mi á ddychwelaf i’m tŷ, o’r lle y daethym. Wedi iddo ddyfod, y mae yn ei gael wedi ei ysgubo a’i ddodrefnu. Yna yr â efe, ac y dwg saith ysbryd arall gwaeth nag ef ei hun; a gwedi myned i fewn, hwy á drigant yno; a bydd cyflwr diweddaf y dyn hwnw yn waeth na’r cyntaf.
27-28Tra yr oedd efe yn dywedyd y pethau hyn, gwraig á gododd ei llef, ac á waeddodd arno o ganol y dyrfa, Gwỳn fyd y groth à’th ddyg di! a’r brònau à sugnaist! Dywed yn hytrach, atebai yntau, Gwỳn eu byd y rhai à wrandawant air Duw, ac á ufyddâant iddo.
29-32Gwedi i’r bobl ymdỳru yn nghyd, efe á ddywedodd, Cenedlaeth ddrwg yw hon. Y maent yn ceisio arwydd; ond arwydd ni roddir iddynt, namyn arwydd Iona. Canys fel y bu Iona yn arwydd i’r Ninefëaid; felly y bydd Mab y Dyn i’r genedlaeth hon. Brenines y dëau á gyfyd yn y farn yn erbyn gwŷr y genedlaeth hon, ac á bair iddynt gael eu collfarnu; am iddi hi ddyfod o eithafon y ddaiar i wrandaw doethebion Solomon; ac wele, rywbeth mwy na Solomon yma. Gwŷr Ninefe á godant i fyny yn y farn yn erbyn y genedlaeth hon, ac á berant iddi gael ei chollfarnu; am iddynt hwy ddiwygio, pan eu rhybyddiwyd gàn Iona; ac wele, rywbeth mwy na Iona yma.
33-36Llusern á oleuir, nid iddei gelu, neu ei ddodi dàn lestr, ond àr ddaliadur, fel y byddo i’r rhai à elant i fewn, gael goleuni. Llusern y corff yw y llygad: pan fyddo dy lygad, gàn hyny, yn iach, dy holl gorff á oleuir; ond pan fyddo dy lygad yn afiach, y mae dy gorff mewn tywyllwch. Edrych, gàn hyny, rhag bod y goleuni sydd ynot yn dywyllwch. Os dy holl gorff, gàn hyny, fydd wedi ei oleuo, heb un ran dywell ynddo; bydd y cwbl wedi ei oleuo, megys pan fyddo llusern, â’i fflam, yn dy oleuo di.
37-41Tra yr ydoedd efe yn llefaru, rhyw Pharisead á ofynodd iddo giniawa gydag ef. Ac efe á aeth, ac á osododd ei hun wrth y bwrdd. Ond y Pharisead á ryfeddodd pan welai nad oedd efe yn arfer golchiad o flaen ciniaw. Yna y dywedodd yr Arglwydd wrtho, Am danoch chwi, Phariseaid, yr ydych yn glanâu y tu allan i’ch cwpanau a’ch dysglau, tra yr ydych chwi eich hunain oddifewn yn llawn rheibusrwydd a drygewyllys. Rai difeddwl! onid yr hwn á wnaeth y tu allan, á wnaeth y tu fewn hefyd? Yn unig rhoddwch yn elusen y pethau sy genych, a phob peth fydd lân i chwi.
42Gwae chwi! Phariseaid! am eich bod yn rhoddi degwm o’r mintys a’r ruw, a phob math o lysieuyn, ac yn esgeuluso cyfiawnder a chariad Duw. Dylasech fod wedi gwneuthur y pethau hyn, a heb fod wedi gadael heibio y lleill.
43Gwae chwi! Phariseaid! am eich bod yn caru yr eisteddlëoedd mwyaf amlwg mewn cynnullfëydd, a chyfarchiadau mewn lleoedd cyhoeddus.
44Gwae chwi! am eich bod fel beddau anamlwg, àr hyd y rhai y rhodia dynion heb yn wybod iddynt.
45-46Yma un o’r cyfreithwyr gàn gyfryngu, á ddywedodd, Wrth ddywedyd fel hyn, Rabbi, yr wyt ti yn ein gwaradwyddo ninnau hefyd. Yntau á atebodd, Gwae chwithau! gyfreithwyr! hefyd; am eich bod yn llwytho dynion â beichiau anhyddwyn – beichiau, â’r rhai ni wnewch chwi eich hunain gymaint a chyfhwrdd ag un o’ch bysedd.
47-48Gwae chwi! am eich bod yn adeiladu gwyddfeddi y Proffwydi, y rhai á laddodd eich tadau. Yn wir, yr ydych yn bodd‐dystio i weithredoedd eich tadau, ac yn eu cymeradwyo hwynt; oblegid hwynthwy á’u lladdasant, a chwithau ydych yn adeiladu eu gwyddfeddi.
49-51O herwydd paham, fel hyn y dywed doethineb Duw, Mi á ddanfonaf iddynt Broffwydi ac Apostolion; rhai o honynt á laddant, ereill á alltudiant; fel y gofynir o law y genedlaeth hon, waed yr holl Broffwydi, yr hwn á dywalltwyd èr lluniad y byd; o waed Abel, hyd waed Zacharia, yr hwn á gwympodd rhwng yr allor a thŷ Duw. Ië, yr wyf yn sicrâu i chwi, gofynir y cwbl o law y genedlaeth hon.
52Gwae chwi! gyfreithwyr! canys chwi á ddygasoch ymaith allwedd gwybodaeth; nid aethoch i fewn eich hunain, a’r sawl oedd yn myned á luddiasoch chwi.
53-54Tra yr ydoedd efe yn dywedyd y pethau hyn, yr Ysgrifenyddion a’r, Phariseaid á ddechreuasant bwyso arno yn egniol â holiadau àr amrai bynciau; gàn ei #11:53 To watch sculkingly, or narrowly.lechwylied ef, èr mwyn tỳnu o’i enau ef ei hun achos i achwyn arno.

Dewis Presennol:

Luwc 11: CJW

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda