Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luwc 12

12
1-12Yn y cyfamser, tra yr oedd y bobl yn fyrddoedd yn ymdỳru o’i amgylch, nes oeddynt yn sangu y naill àr y llall, efe á ddywedodd, gàn gyfarch ei ddysgyblion, Yn bènaf dim, ymogelwch rhag surdoes y Phariseaid, yr hwn yw rhagrith. Canys nid oes dim cuddiedig, na ddadguddir; dim dirgel, nas gwybyddir. Yr hyn á ddywedasoch yn y tywyllwch, à adroddir yn y goleu; a’r hyn à ddywedasoch yn y glust yn yr ystafell, á gyhoeddir oddar bènau y tai. Ond yr wyf yn erchi i chwi, fy nghyfeillion, nac ofnwch y rhai à laddant y corff, a gwedi hyny heb allu gwneuthur dim mwy; ond mi á ddangosaf i chwi pwy á ddylech ofni; ofnwch yr hwn, wedi iddo ladd, sydd ag awdurdod ganddo i fwrw i uffern. Yr wyf yn dywedyd eto wrthych, Ofnwch hwnw. Oni werthir pump o adar y to èr dwy ffyrling? Eto nid oes un o honynt yn cael ei annghofio gàn Dduw: ïe, y mae hyd yn nod gwallt eich pèn chwi yn gyfrifedig oll; nac ofnwch, gàn hyny, yr ydych chwi yn lawer gwerthfawrocach nag adar y to. Hefyd, yr wyf yn dywedyd i chwi, pwybynag á’m haddefo i gèr bron dynion, Mab y Dyn á’i haddef yntau gèr bron angylion Duw; ond pwybynag á’m gwado i gèr bron dynion, á wedir gèr bron angylion Duw. A phwybynag á ogano Fab y Dyn, á all gael maddeuant; ond i’r hwn à gablo yn erbyn yr Ysbryd Glan, nid oes maddeuant. A phan ych dygir gèr bron cynnullfëydd, ac ynadon, a phènaethiaid, na fyddwch bryderus, pa fodd neu pa beth á ddywedoch; canys yr Ysbryd Glan á ddysg i chwi yn y meidyn hwnw beth á ddylech ddywedyd.
13-15Yna rhyw un o’r dyrfa á ddywedodd wrtho, Rabbi, dywed wrth fy mrawd am rànu â mi yr etifeddiaeth. Yntau á atebodd, Ddyn, pwy á’m gosododd i yn farnwr neu yn gylafareddwr i chwi? Ac efe á ddywedodd wrthynt, Ymochelwch rhag cybydd‐dod; canys pa mòr lawn bynag y dichon iddi fod àr ddyn, nid yw ei fywyd yn ymddibynu àr ei feddiannau.
16-21Efe á arferodd hefyd yr angraifft hwn, Tir rhyw wr goludog á gnydiodd yn dda. Ac efe á ymresymodd fel hyn ag ef ei hun, Pa beth á wnaf? canys nid oes genyf le i gasglu fy ffrwythau iddo. Hyn á wnaf, chwanegai efe; mi á dỳnaf i lawr fy ystordai, ac á adeiladaf rai mwy, ac yno y casglaf fy holl gynnyrch a’m da. A dywedaf wrth fy enaid, Enaid, y mae genyt dda lawer wedi eu rhoddi i gadw dros lawer o flynyddoedd; gorphwys, bwyta, ŷf, bydd lawen. Ond Duw á ddywedodd wrtho, Ynfyd! y nos hon y gofynir dy enaid oddwrthyt. Eiddo pwy, gàn hyny, fydd y pethau à barotöaist? Felly y mae gyda ’r hwn sydd yn pentỳru iddo ei hun drysor, ac heb fod yn gyfoethog, tuagat Dduw.
22-34Yna y dywedodd efe wrth ei ddysgyblion, Am hyn yr wyf yn erchi i chwi, na fyddwch bryderus o barth eich bywyd, beth á fwytäoch; nac o barth eich corff, beth á wisgoch. Y mae bywyd yn fwy rhodd na bwyd, a’r corff na dillad. Ysdyriwch y brain: nid ydynt yn hau nac yn medi; ni feddant na chell nac ysgubor; ond y mae Duw yn eu porthi hwynt. Pa faint gwerthfawrocach ydych chwi nag ehediaid? Heblaw hyny, pwy o honoch á ddichon, drwy ei bryder, estyn ei einioes un awr? Os na fedrwch, gàn hyny, wneuthur hyd yn nod y peth lleiaf, paham yr ydych yn bryderus am y lleill? Ysdyriwch y lili. Pa fodd y maent yn tyfu? Nid ydynt yn llafurio; nid ydynt yn nyddu; eto yr wyf yn gwirio na chafodd, hyd yn nod Solomon yn ei holl ogoniant, ei addurno fel un o’r rhai hyn. Os dillada Duw felly y llysieuyn, yr hwn sy heddyw yn y maes, ac yfory á deflir i’r ffwrn, pa faint mwy y dillada efe chwi, O rai anymddiriedus! Na ofynwch chwi, gàn hyny, pa beth á fwytäoch, neu pa beth á yfoch; na fyddwch byw mewn pryder ammheüus. Canys y pethau hyn holl y mae y Paganiaid yn eu hargeisio; ac y mae eich Tad chwi yn gwybod bod arnoch eu heisieu hwynt. Ond ceisiwch chwi deyrnas Duw, a’r pethau hyn oll á roddir i chwi yn ychwaneg. Nac ofna, fy nëadell fechan; canys rhyngodd bodd i’ch Tad roddi i chwi y deyrnas. Gwerthwch eich meddiannau, a rhoddwch elusen; darparwch i chwi eich hunain #12:22 Pyrsau.alwarau y rhai ni threuliant; trysor annarfodadwy yn y nefoedd, lle ni ddaw lladron yn agos, lle nid oes dim yn cael ei lygru gàn bryfed. Canys lle y mae eich trysor, yno y bydd eich calon hefyd.
35-40Bydded eich lwynau gwedi eu hamwregysu, a’ch lluserni yn llosgi; a chwithau eich hunain yn debyg i’r rhai à ddysgwyliant eu meistr yn ol o’r neithior; fel pan ddelo a churo, y gollyngont ef i fewn yn ebrwydd. Gwyn eu byd y gweision hyny, y rhai á gaiff eu meistr pan ddychwelo, yn gwylied. Yn wir, yr wyf yn dywedyd i chwi, efe á ymwregysa, a gwedi eu gosod hwy wrth y bwrdd, á ddaw ac á wasanaetha arnynt hwy. A phynag ai àr yr ail gwylbryd, ai àr y trydydd, y daw, os caiff efe bethau fel hyn, gwỳn eu byd y gweision hyny. Dir gènych, pe gwybuasai gwr y tŷ, pa awr y deuai y lleidr, y gwyliasai efe, a ni adawsai iddo dòri i fewn iddei dŷ. Byddwch chwithau, gàn hyny, bob amser yn barod; canys daw Mab y Dyn àr awr na byddoch yn ei ddysgwyl ef.
41-48Yna Pedr á ddywedodd wrtho, Feistr, ai atom ni yn unig y cyfeirir y ddameg hon, ai ynte at bawb? Yr Arglwydd á ddywedodd, Pwy yn awr yw y goruchwyliwr pwyllog a ffyddlawn, yr hwn á esyd y meistr àr ei deulu, i rànu iddynt y dogn o ŷd yn reolaidd? Gwỳn ei fyd y gwas hwnw, yr hwn y caiff ei feistr ef, pan ddel, yn gwneuthur felly. Yn wír, yr wyf yn dywedyd i chwi, efe á ymddiried iddo drefnidaeth ei holl feddiannau. Ond am y gwas hwnw à ddywed ynddo ei hun, Y mae fy meistr yn oedi ei ddyfodiad, ac á gura y gweision a’r morwynion, á wledda, á loddesta, ac á feddwa; meistr y gwas hwnw á ddaw àr ddydd na byddo efe yn ei ddysgwyl, ac àr awr na byddo efe gwedi ei hysbysu am dani, a gwedi iddo ei ddiswyddo, efe á esyd iddo ei ràn gyda ’r anffyddloniaid. A’r gwas hwnw, yr hwn á wybu ewyllys ei feistr, ond nid ymbarotòdd, a ni wnaeth yn ol ei ewyllys ef, á gurir â llawer ffònod; ond yr hwn ni wybu, ac á wnaeth bethau yn haeddu cerydd, á gurir ag ychydig; canys i bwybynag y rhoddwyd llawer, llawer á ofynir ganddo; ac i’r neb yr ymddiriedir mwyaf, mwyaf á geisir ganddo.
49-53Mi á ddaethym i fwrw tân àr y ddaiar; a pha beth á fỳnwn, ond iddo fod wedi ei gynneu? Y mae genyf drochiad i’m trochi ag ef, a mòr gyfyng yw arnaf hyd oni orphener! A ydych chwi yn tybied i mi ddyfod i roddi heddwch i’r ddaiar? Yr wyf yn dywedyd wrthych, Naddo, ond ymrániad. Canys bydd, àr ol hyn, bump yn yr un teulu gwedi ymrànu; tri yn erbyn dau, a dau yn erbyn tri; tad yn erbyn mab, a mab yn erbyn tad; mam yn erbyn merch, a merch yn erbyn mam; chwegr yn erbyn gwaudd, a gwaudd yn erbyn chwegr.
54-57Efe á ddywedodd hefyd wrth y bobl, Pan weloch gwmwl yn codi o’r gorllewin, dywedwch, Hi á wlawia yn ebrwydd, a felly y bydd; a phan fyddo y deheuwynt yn chwythu, dywedwch, Fe fydd gwres, a fe fydd felly. Ragrithwyr, a fedrwch chwi farnu am yr hyn à ymddengys yn yr wybr, ac àr y ddaiar; pa fodd nad ydych yn medru barnu am yr amser presennol? a phaham nad ydych, hyd yn nod o honoch eich hunain, yn dirnad yr hyn sy gyfiawn?
58-59Pan elych gyda ’th echwynwr at yr ynad, gwna dy oreu àr y ffordd iddei foddloni ef, rhag iddo dy lusgo o flaen y barnwr, ac i’r barnwr dy draddodi i’r rhingyll, ac i’r rhingyll dy daflu i garchar; yr wyf yn sicrâu i ti, ni ’th ryddêir, hyd oni thelych yr hatling ddiweddaf.

Dewis Presennol:

Luwc 12: CJW

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda