Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luwc 12:22-34

Luwc 12:22-34 CJW

Yna y dywedodd efe wrth ei ddysgyblion, Am hyn yr wyf yn erchi i chwi, na fyddwch bryderus o barth eich bywyd, beth á fwytäoch; nac o barth eich corff, beth á wisgoch. Y mae bywyd yn fwy rhodd na bwyd, a’r corff na dillad. Ysdyriwch y brain: nid ydynt yn hau nac yn medi; ni feddant na chell nac ysgubor; ond y mae Duw yn eu porthi hwynt. Pa faint gwerthfawrocach ydych chwi nag ehediaid? Heblaw hyny, pwy o honoch á ddichon, drwy ei bryder, estyn ei einioes un awr? Os na fedrwch, gàn hyny, wneuthur hyd yn nod y peth lleiaf, paham yr ydych yn bryderus am y lleill? Ysdyriwch y lili. Pa fodd y maent yn tyfu? Nid ydynt yn llafurio; nid ydynt yn nyddu; eto yr wyf yn gwirio na chafodd, hyd yn nod Solomon yn ei holl ogoniant, ei addurno fel un o’r rhai hyn. Os dillada Duw felly y llysieuyn, yr hwn sy heddyw yn y maes, ac yfory á deflir i’r ffwrn, pa faint mwy y dillada efe chwi, O rai anymddiriedus! Na ofynwch chwi, gàn hyny, pa beth á fwytäoch, neu pa beth á yfoch; na fyddwch byw mewn pryder ammheüus. Canys y pethau hyn holl y mae y Paganiaid yn eu hargeisio; ac y mae eich Tad chwi yn gwybod bod arnoch eu heisieu hwynt. Ond ceisiwch chwi deyrnas Duw, a’r pethau hyn oll á roddir i chwi yn ychwaneg. Nac ofna, fy nëadell fechan; canys rhyngodd bodd i’ch Tad roddi i chwi y deyrnas. Gwerthwch eich meddiannau, a rhoddwch elusen; darparwch i chwi eich hunain alwarau y rhai ni threuliant; trysor annarfodadwy yn y nefoedd, lle ni ddaw lladron yn agos, lle nid oes dim yn cael ei lygru gàn bryfed. Canys lle y mae eich trysor, yno y bydd eich calon hefyd.