Fel yr oedd tyrfëydd mawrion yn cydgerdded ag ef, efe á droes atynt, ac á ddywedodd, Os daw neb ataf fi, a ni chasâo ei dad a’i fam, a’i wraig, a’i blant, a’i frodyr a’i chwiorydd; ie, a’i hunan hefyd, ni all efe fod yn ddysgybl i mi. A phwybynag ni’m dylyno i, gàn ddwyn ei groes, ni all fod yn ddysgybl i mi. Canys pwy o honoch chwi â’i fryd àr adeiladu tŵr, nid yw yn gyntaf, wrtho ei hun, yn bwrw y draul, i wybod á oes ganddo fodd iddei orphen; rhag, wedi iddo osod y sylfaen, ac heb allu ei orphen, iddo fyned yn watwar i bawb à’i gwelant, y rhai á ddywedant, Y dyn hwn á ddechreuodd adeiladu, ond ni allodd ei orphen. Neu pa frenin àr fyned i frwydr â brenin arall, yr hwn sy mewn rhyfel ag ef, nid yw yn gyntaf yn ymgynghori wrtho ei hun, á all efe â deng mil o wŷr, gyfarfod â’r hwn sydd yn dyfod yn ei erbyn ef ag ugain mil; fel, os yn amgen, y gallo, tra byddo y llall yn mhell oddwrtho, ddanfon cenadwri i ddeisyf ammodau heddwch. Felly hefyd, pwybynag o honoch chwithau nid ymwrthodo â chymaint oll ag á fedda, ni all fod yn ddysgybl i mi. Da yw halen; ond os aiff yr halen yn ferfaidd, â pha beth yr helltir ef? Nid yw gymhwys nac i’r tir nac i’r domen, ond efe á deflir ymaith. Y neb sy ganddo glustiau i wrandaw, gwrandawed.