Luwc 14
14
1-6Dygwyddodd àr Seibiaeth, wedi myned o hono i fwyta i dŷ un o’r pènaethiaid, yr hwn oedd Pharisead, tra yr oedd y Phariseaid yn dàl arno, ddyfod dyn â’r dyfrglwyf arno, a sefyll gèr ei fron ef. Yna Iesu, gàn gyfeirio ei ymadrodd at y cyfreithwyr a’r Phariseaid, á ddywedodd, Ai rhydd iachâu àr y Seibiaeth? Ac a hwythau yn tewi, efe á afaelodd yn y dyn, á’i hiachâodd, ac á’i gollyngodd ef ymaith. Yna, gàn fyned rhagddo, efe á ddywedodd, Pwy o honoch chwi, pe syrthiai ei ŷch neu ei asyn i bwll, àr ddydd y Seibiaeth, nis tỳnai ef allan yn ebrwydd? Ac i hyn nis gallent wrthateb.
7-11Wrth sylwi mòr awyddus oedd y gwesteion i gael y lleoedd uchaf wrth y bwrdd, efe á roddes iddynt yr archeb yma; Pan yth wahodder i neithior, na chỳmer y lle uchaf wrth y bwrdd, rhag bod un anrhydeddusach na thi gwedi ei wahodd, ac i’r hwn à’ch gwahoddodd ill dau ddyfod a dywedyd wrthyt, Dyro le i hwn; ac yna i tithau, drwy gywilydd, gyfodi i gymeryd y lle isaf. Ond pan yth wahodder, dos i’r lle isaf, fel pan ddelo yr hwn à’th wahoddodd di, y gallo efe ddywedyd wrthyt, Gyfaill, dos yn uwch i fyny; oblegid bydd hyny yn anrhydedd i ti yn ngwydd y rhai à fyddont gyda thi wrth y bwrdd. Canys pwybynag à’i dyrchafo ei hun, á ostyngir; a phwybynag á’i gostyngo ei hun, á ddyrchefir.
12-14Efe á ddywedodd hefyd wrth yr hwn à’i gwahoddasai, Pan roddych giniaw neu gwynos, na wahodda dy gyfeillion, na ’th frodyr, na ’th geraint, na ’th gymydogion goludog, rhag iddynt hwythau eilchwyl dy wahodd dithau, a gwneuthur ad‐daledigaeth i ti. Ond pan roddych #14:12 Gwledd.arfoll, gwahodd y tylodion, yr efryddion, y cloffion, y deillion; a dedwydd fyddi; oblegid gàn na feddant ddim i dalu yn ol i ti, ti á gai ad‐daledigaeth yn adgyfodiad y rhai cyfiawn.
15-24Un o’r gwesteion wedi clywed hyn, á ddywedodd, Gwỳn ei fyd y neb à gaffo wledda yn Nheyrnasiad Duw. Iesu á ddywedodd wrtho, Rhyw ẁr á wnaeth gwynos mawr, ac á wahoddodd lawer. A phryd cwynos, efe á ddanfonodd ei weision i ddywedyd wrth y rhai à wahoddasid am ddyfod yn ddioed; am fod pob peth yn barod. A hwy oll, yn ddieithrad, a wnaethant esgusion. Dywedodd un, Mi á brynais faes, a rhaid i mi fyned, a’i weled; attolygwyf i ti fy nghymeryd i yn esgusodol. Un arall á ddywedodd, Mi á brynais bumm iau o ychain, ac yr ydwyf yn myned iddeu profi hwynt; attolygwyf i ti fy nghymeryd i yn esgusodol. Trydydd á ddywedodd, Mi á briodais wraig, ac am hyny nis gallaf fyned. Y gwas, pan ddychwelodd, á fynegodd y cwbl iddei feistr. Yna gwr y tŷ, gwedi digio, á ddywedodd wrth ei weision, Ewch yn ddiannod i heolydd ac ystrydoedd y ddinas, a dygwch i fewn yma y tylodion, yr anafus, y cloffion, a’r deillion. Wedi hyny, dywedodd y gwas, Sỳr, gwnaethwyd fel y gorchymynaist, ac eto y mae lle. Y meistr á atebodd, Ewch allan i’r prif‐ffyrdd a’r caeau, a chymhellwch rai i ddyfod i fewn, fel y llanwer fy nhŷ; canys yr wyf yn gwirio i chwi, na chaiff neb o’r rhai à wahoddwyd brofi o’m cwynos i.
25-35Fel yr oedd tyrfëydd mawrion yn cydgerdded ag ef, efe á droes atynt, ac á ddywedodd, Os daw neb ataf fi, a ni chasâo ei dad a’i fam, a’i wraig, a’i blant, a’i frodyr a’i chwiorydd; ie, a’i hunan hefyd, ni all efe fod yn ddysgybl i mi. A phwybynag ni’m dylyno i, gàn ddwyn ei groes, ni all fod yn ddysgybl i mi. Canys pwy o honoch chwi â’i fryd àr adeiladu tŵr, nid yw yn gyntaf, wrtho ei hun, yn bwrw y draul, i wybod á oes ganddo fodd iddei orphen; rhag, wedi iddo osod y sylfaen, ac heb allu ei orphen, iddo fyned yn watwar i bawb à’i gwelant, y rhai á ddywedant, Y dyn hwn á ddechreuodd adeiladu, ond ni allodd ei orphen. Neu pa frenin àr fyned i frwydr â brenin arall, yr hwn sy mewn rhyfel ag ef, nid yw yn gyntaf yn ymgynghori wrtho ei hun, á all efe â deng mil o wŷr, gyfarfod â’r hwn sydd yn dyfod yn ei erbyn ef ag ugain mil; fel, os yn amgen, y gallo, tra byddo y llall yn mhell oddwrtho, ddanfon cenadwri i ddeisyf ammodau heddwch. Felly hefyd, pwybynag o honoch chwithau nid ymwrthodo â chymaint oll ag á fedda, ni all fod yn ddysgybl i mi. Da yw halen; ond os aiff yr halen yn ferfaidd, â pha beth yr helltir ef? Nid yw gymhwys nac i’r tir nac i’r domen, ond efe á deflir ymaith. Y neb sy ganddo glustiau i wrandaw, gwrandawed.
Dewis Presennol:
Luwc 14: CJW
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Yr Oraclau Bywiol gan John Williams 1842. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.