Luwc 15
15
DOSBARTH X.
Damegion.
1-2A’r holl dollwyr a’r pechaduriaid á gyrchent at Iesu, i wrandaw arno. Ond y Phariseaid a’r ysgrifenyddion á rwgnachent, gàn ddywedyd, Y mae hwn yn derbyn pechaduriaid, ac yn cydfwyta â hwynt.
3-7Yna y cyfeiriodd efe atynt y gyffelybiaeth hon: Pa ddyn o honoch, a chanddo gant o ddefaid, os cyll un o honynt, nid yw yn gadael y nawdeg a naw yn yr anialwch, ac yn myned àr ol yr hon à gollwyd, hyd oni chaffo efe hi? A gwedi iddo ei chael, oni ddyd efe hi àr ei ysgwyddau yn llawen, a phan ddêl adref, á eilw yn nghyd ei gyfeillion a’i gymydogion, gàn ddywedyd wrthynt, Llawenewch gyda mi, canys cefais fy nafad à gollasid? Felly, yr wyf yn sicrâu i chwi, y mae llawenydd yn y nef am un pechadur à ddiwygio, mwy nag am nawdeg a naw o rai cyfiawn, y rhai ni raid iddynt wrth ddiwygiad.
8-10Neu pa wraig a chanddi ddeg drachma, os cyll hi un, ni oleua lusern, ac ysgubo y tŷ, a chwilio yn ddyfal hyd oni chaffo ef? A gwedi iddi ei gael, oni eilw hi yn nghyd ei chyfeillesau a’i chymydogesau, gàn ddywedyd, Cydlawenewch â mi, canys cefais y drachma à gollaswn? Y fath lawenydd, yr wyf yn sicrâu i chwi, sy gàn angylion Duw, pan y mae rhyw bechadur yn diwygio.
11-24Efe á ddywedodd hefyd, Yr oedd gàn ryw ŵr ddau fab. A’r ieuach o honynt á ddywedodd wrth ei dad, Fy nhad, dyro i mi fy nghyfran o’r da. Yntau á ddosbarthodd iddynt eu rhànau. Yn mhen ychydig wedi, y mab ieuach á gasglodd y cwbl yn nghyd, ac á gymerodd ei daith i wlad bell, ac yno efe á wastraffodd ei eiddo mewn gloddestrwydd. Wedi iddo dreulio y cwbl, y cododd newyn mawr drwy y wlad hòno, ac yntau á ddechreuodd fod mewn eisieu. Yna efe á aeth ac á lynodd wrth un o breswylwyr y wlad hòno, yr hwn á’i hanfonodd iddei feusydd i gadw moch. Ac efe a chwennychai dòri ei newyn â’r cibau à fwytäai y moch; herwydd nid oedd neb yn rhoddi dim iddo. O’r diwedd, pan ddaeth ato ei hun, efe á ddywedodd, Pa sawl gwas cyflog o’r eiddo fy nhad sydd yn cael eu gwala a’u gweddil o fara, a minnau yn marw o newyn! Mi á godaf ac á af at fy nhad, ac á ddywedaf wrtho, Fy nhad, pechais yn erbyn y nef a thithau, a mwyach nid ydwyf deilwng i’m galw yn fab i ti; gwna fi fel un o’th weision cyflog. Ac efe á gododd ac á aeth at ei dad. A phan oedd efe eto yn mhell oddwrtho; ei dad á’i canfu ef, ac á dosturiodd, ac á redodd ac á syrthiodd àr ei wddf ef, ac á’i cusanodd. A’r mab á ddywedodd, Fy nhad, pechais yn erbyn y nef a thithau, a mwyach nid ydwyf deilwng i’m galw yn fab i ti. Ond y tad á ddywedodd wrth ei weision, Dygwch yma y wisg bènaf, a gwisgwch am dano ef, a rhoddwch fodrwy àr ei fys, ac esgidiau am ei draed; dygwch hefyd y llo pasgedig, a lleddwch ef; a bwytawn a byddwn lawen; canys fy mab hwn oedd farw, ac aeth yn fyw drachefn; efe á gollesid, ac á gaed. Felly hwy á ddechreuasant fod yn llawen.
25-32Ac yr oedd ei fab hynach ef yn y maes yn cerdded adref. A fel yr oedd efe yn nesâu at y tŷ, efe á glywai gynghanedd a chorelwi. Am hyny, gwedi galw un o’r gweision, efe á ofynodd yr achos o hyn. Yntau á atebodd. Dy frawd á ddychwelodd, a’th dad á laddodd y llo pasgedig, am iddo ei dderbyn ef yn iach. Yntau á ddigiodd, a nid ai i fewn; am hyny ei dad á ddaeth allan, ac á ymbiliodd ag ef. Yntau gàn ateb, á ddywedodd wrth ei dad, Mi á’th wasanaethais di gynnifer o flynyddoedd, heb anufyddâu i’th orchymyn mewn dim; èr hyny ni roddaist fỳn erioed i mi fel y gallaswn resawu fy nghyfeillion; ond nid cynt y dychwelodd dy fab hwn, yr hwn á wastraffodd dy fywioliaeth gyda phuteiniaid, nag y lleddaist iddo ef y llo pasgedig. Fy mab, atebai y tad, yr wyt ti yn wastadol gyda mi, a’r eiddof fi oll ydynt eiddot ti: nid oedd ond rhesymol i ni fod yn llawen a digrif; oblegid dy frawd hwn oedd farw, ac á aeth yn fyw drachefn; efe á fu golledig, ac á gafwyd.
Dewis Presennol:
Luwc 15: CJW
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Yr Oraclau Bywiol gan John Williams 1842. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.